Eisteddfod – Dydd Sadwrn 12 Awst 2006 (5)

Blog-gwrdd

Gwenu tan fysiau yn annerch y Blog-gwrddEfallai taw colli’r cwis oedd yr artaith yr oedd yn rhaid ei ddioddef er mwyn cyrraedd y fan honno yn yr wythnos lle’r oeddwn i am fod. Yn union ar ôl y cwis dyma fynd ar draws y cae i stondin Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg ohewrydd yno yr oedd un o’r cyfarfodydd pwysicaf yn hanes y genedl yn cael ei gynnal, sef y blog-gwrdd. Beth yw blog-gwrdd, wel cyfle i bobol sy’n blogio i gwrdd â’i gilydd. Gwaith unig yw blogio o flaen y cyfrifiadur ar eich pen eich hun. Weithiau mae’n hawdd anghofio fod pobol go iawn yn bod mas ‘na, a taw pobol go iawn sy’n blogio. Roedd y digwyddiad wedi bod yn ffrwtian ers tipyn ar hyd y gwifrau, yn bennaf ar maes-e, ond nawr roedd y peth yn realiti. Wrth fynd heibio i’r stondinau diflas eraill ar faes yr eisteddfod roeddwn yn cyffroi yn fwy fwy. A fyddai rhywun arall yno? A fyddwn i yn adnabod unrhyw un arall? Oherwydd heblaw am ryw un neu ddau o flogwyr eraill doeddwn i erioed wedi cyfarfod â’r mwyafrif o flogwyr Cymraeg.

Ffilmio'r Blog-gwrddY peth cyntaf y mae’n rhaid imi ei ddweud yw na chefais fy siomi. I ddweud y gwir roedd y digwyddiad yn rhyw debyg iawn i’r hyn yr oeddwn yn disgwyl iddo fod. Pan fo cymaint â hynny o gîciaid yn dod at ei gilydd mae’n anodd gwybod beth fydd yn digwydd, ond roedd pawb yn weddol barchus – heblaw am Ray Diota, wrth gwrs. Roedd yn gyfle gwych i wneud pob math o bethau. Y peth cyntaf oedd dod i adnabod ein gilydd yn gymdeithasol. Wedyn fe aed ati i drafod ychydig ar y fath o dechnoleg yr oedd pawb yn ei defnyddio. Pwy oedd yn bleidiol i Blogger ? Pwy oedd yn defnyddio rhywbeth arall? Pwy oedd yn rhedeg ei gweinydd ei hunain gan ddefnyddio WordPress? Nawr dwi’n gwybod fod hynny’n swnio’n ddiflas, ond os ydych chi mewn i’r busnes blogio dyna’r fath o beth sydd o ddiddordeb ichi.

Wedi trafod hynny dyma’r sgwrs wedyn yn troi at feddalwedd a gwefannau eraill oedd yn ddefnyddiol ac yn help i’r blogiwr. Roedd rhai yn canu clodydd del.icio.us (meddalwedd i reoli eich hoff ddolenni gwe), YouTube (gwefan lle allwch chi gyhoeddi eich fideos eich hun; doedd neb ond gîciaid wedi clywed am y safle hyn adeg yr eisteddfod, ers hynny y mae wedi bod yn y newyddion yn gyson!), Google maps (mapiau am ddim y gall blogiwr eu troi i’w ddefnydd ei hun), gwefan maes-e (wrth gwrs). Mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi canu clodydd LibraryThing i’r fath raddau y gallech chi fod wedi credu fy mod yn berchen ar gyfranddaliadau. Dwi dwli ar LibraryThing, ac mae croeso ichi alw heibio i weld fy nghatalog llyfrau i yno. Cafwyd trafodaeth hefyd am ddefnyddio’r Gymraeg ac am rannu addasiadau a chyfieithiadau – ni ddaethpwyd i unrhyw gytundeb ffurfiol.

Guru blogwyr CymruY blogwyr dwi’n cofio eu cyfarfod yno oedd y canlynol:  wierdo, gwenudanfysiau, MrGasyth, KamikzeCymru, Telsa, bachgenobontllanfraith, ChrisCope, RayDiota, Dwlwen, joss, DailyMeil, RwdlsNwdls, ac wrth gwrs morfablog (neu Nic Dafis, guru gwifriedig y Gymru Gymraeg). Yr hyn wnaeth fy nharo i oedd pa mor ifanc oedd y mwyafrif o’r blogwyr ‘ma. Yr hyn oedd fwyaf cyffrous oedd cyfarfod gyda Chris Cope am y tro cyntaf yn y cnawd. Dwi wedi bod yn dilyn blog Chris ers oesoedd ac wedi bod mewn cysylltiad gydag ef, ond o’r diwedd dyma gyarfod. Dysgodd Gymraeg yn y Taleithiau Unedig, ond mae e wedi dod i Gaerdydd i wneud gradd Gymraeg! Roedd hi’n dda iawn hefyd cyfarfod â gwenudanfysiau a chael cyfle i gael sgwrs dda am bob math o bethau, gan gynnwys blogio.

Mae rhyw sôn am drefnu blog-gwrdd arall cyn bo hir. Os yw hi’n bosib bydda i’n ceisio fy ngorau i fod yno. Roedd yn werth y disgwyl i gyd. Dyma goron ar yr eisteddfod i mi.

Rhagor o luniau o’r blog-gwrdd yn Abertawe.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

4 sylw ar Eisteddfod – Dydd Sadwrn 12 Awst 2006 (5)

  • Mae’r llun cyntaf yn gwenud i mi edrych fel gwallgofyn (yn fwy nag arfer).

  • Ray Diota

    haha! jolch am y ‘compliment’ doggers!

  • Ha. Dw i’n gobeithio fy mod i ddim wedi siomi.

  • Ddim o gwbl, Chris. I ddweud y gwir ni wnaeth dim fy siomi am dy gyfarfod di na chyfarfod y gweddill yn y blog-gwrdd. Roedd yn wych o beth i’w wneud. Y tro nesaf bydd y cyffro o gyfarfod am y tro cyntaf ddim yno, ond bydd pethau eraill i’w gwneud a’u trafod bryd hynny! Diolch am fod ‘na!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>