Eisteddfod – Dydd Sadwrn 12 Awst 2006 (4)

Cwis

Tîm cwis Annedd y cynghaneddwyrDoes dim chwerwder, ond roedd colli y cwis o hanner marc yn ergyd anodd i’w goddef. Dwi ddim yn un chwaith sy’n ymddiddori nac yn ymhyfrydu mewn damcaniaethau cynllwyn, ond mae’r ffaith fod y gwisfeistres yn chwaer i un o aelodau’r tîm buddugol wedi bod yn mynd trwy fy meddwl a dechrau gwneud imi amau bod rhyw arwyddocad i hynny. Roeddwn i a thri chydweithiwr o’r Llyfrgell mewn un tîm – DJP, IBJ, ac RAJ – a’n gwrthwynebwyr oedd tîm yn cynrychioli gwefan Annedd y cynganeddwyr : cynghanedd.com : cartref cynghanedd ar y we. Roedd pedwar ar eu tîm hwythau hefyd – Llion Jones, Emyr Lewis, Karen Owen ac Idris Reynolds. Y gwisfeistres oedd Catrin Beard. Roedd y cwestiynau yn ddifyr iawn ac fe wnes i fwynhau’r cwis, ond ar y diwedd roedd ‘na hanner marc yn ein gwahanu ac thîm yr Annedd oedd yn berchen ar yr hanner marc hwnnw.

I mi roedd hi’n brofiad newydd i golli o hanner marc, ond i weddill y tîm roedd ‘na ryw deimlad o deja vu gan eu bod hwy fel aelodau o dîm talwrn y Cŵps wedi colli o hanner marc yn y Babell Lên wythnos yn gynt yn rownd derfynol Talwrn y BBC. Mae pawb yn dal i sôn am y cam a gafwyd y dydd hwnnw, ond dwi’n fodlon derbyn fod y canlyniad heddiw yn adlewyrchu’n deg y safon. Llongyfarchiadau i’r Annedd!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Eisteddfod – Dydd Sadwrn 12 Awst 2006 (4)

  • Gerallt

    Graslon iawn Dogfael. Boed dy raslonrwydd yn llewyrch ar lwybrau’r brodyr RAJ, DJP & IBJ!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>