Eisteddfod – Dydd Sadwrn 12 Awst 2006 (3)

Addewid yn dod adref i glwydo!

Maes yr eisteddfod, Felindre, AbertaweMae pawb wedi cael y profiad o addo rhywbeth yn ddi-hid fisoedd ymlaen llaw, ac yna’n sydyn mae’r hyn oedd yn rhith yn troi yn realiti byw. Dyna ddigwyddodd i fi heddiw. Oherwydd imi ddweud ‘ie’ i gais i gymryd rhan mewn cwis yn y Babell Lên heddiw mae hynny’n golygu fy mod yn mynd i’r eisteddfod am y trydydd tro eleni. Rhaid cyfrif hynny yn fethiant personol ar ôl buddugoliaeth Eisteddfod Casnewydd 2004 pan lwyddais i osgoi’r maes yn gyfan gwbwl. Y gwir yw fy mod yn ofni maes yr eisteddfod. Dwi’n ofni ei fod yn mynd i weithio arnaf fel cyffur gan fy nhynnu i mewn nes bod ei grafangau yn dynn yn fy nghnawd a na fydd dianc rhagddo byth eto. Hyd yn hyn dwi wedi llywddo i sefyll o’r neilltu gan ddewis drosof fy hun pryd i fynd a phryd i beidio mynd. Gallai hynny newid os nad ydwyf yn ofalus iawn.

Blodau gwyllt ar faes yr eisteddfod, Felindre, AbertaweGallai hynny fod wedi digwydd eleni yn Felindre, ond diolch byth fod y cerrig dan draed yn gweithredu fel gwrthbwynt i’r profiad ‘newydd’ o fod yn eisteddfodwr unwaith eto. Ar y ffordd i mewn i’r maes y bore ‘ma fe wnes i sylwi ar brofa a blodau gwyllt o gwmpas y maes parcio, roeddwn i wedi dechrau amau a oedd unrhyw beth byw yn medru goroesi yn y fath amgylchedd. Wrth weld y blodau fe gyffyrddwyd â’m calon, a bron na chefais fy hudo ganddynt.

Corlan fwyd, Maes yr eisteddfod, Felindre, AbertaweRoedd y cwis yn digwydd yn y Babell Lên am 1.00pm ac felly roedd rhyw awr neu ddwy gennym i grwydro’r maes cyn hynny. Dwi’n ofni i fi a DJP ddefnyddio’r amser i sgwrsio am y peth hyn a’r peth arall dros ‘goffi’ yn y gorlan fwyd gerllaw y Babell Lên. Mae’n amlwg taw dyna’r lle i fod. Fe welsom ni’r beirdd Mererid Hopwood a Menna Elfyn yno, ac erbyn amser cinio roedd un o actoresau Pobol y cwm yno yn bwyta. Daeth IBJ cyn bo hir ac RAJ a bu’r pedwar ohonom yn pendroni dros un o ‘dasgau’ y cwis, sef creu cofnod twyllodrus ar gyfer y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint â hynny o waith, ond fe es ati gydag arddeliad – mae’r ffaith fy mod yn ffan mawr o lyfrau cyfeiriol yn help imi yn hynny o beth.

Yn union ar ôl y cwis yr oedd uchafbwynt yr Eisteddfod yn fy marn i, sef Blog-gwrdd yn dod â chymaint â phosib o flogwyr Cymraeg at ei gilydd. Roeddwn i wedi ofni na fyddai’n cael ei gynnal ar ddiwrnod cyfleus i mi, ond yn y diwedd fe benderfynwyd ar y Sadwrn olaf. Roeddwn wrth fy modd. Pwy fydd yno? Pwy wela i am y tro cyntaf? Fe fydd hi’n sbort ac yn brofiad rhyfedd ond gwych i gwrdd â phobol nad ydw erioed wedi’u gweld o’r blaen ond yn teimlo fy mod yn eu hadnabod. Dwi’n methu aros!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>