Pam coginio?
Mae rhywun yn siŵr o ofyn pam fy mod yn fodlon treulio mwy o amser yn coginio yn yr eisteddfod nag ydw i ar y maes ei hun. Wel y gwir amdani yw fy mod yn mwynhau coginio, ond wrth goginio i fi fy hun dwi ddim yn cael y pleser o weld rhywun arall yn gwerthfawrogi’r ymdrech. Ond pan fo pobol yn gwerthfawrogi’r gwaith a’r ymdrech mae’r cyfan yn bleser. Weithiau dwi’n meddwl fy mod wedi fy ngeni yn y lle anghywir gyda’r rhyw anghywir ac mewn gwirionedd rydw i’n wraig tŷ Eidalaidd o fewn i gorff dyn o Gymro. Dylwn fod ar fferm yn Umbria yn creu miraglau bychain allan o basta a chaws ac olew’r olewydd i weini i’r bois wedi iddyn nhw ddod mewn o’r perci yn cywain gwair. Neu weithiau dwi’n meddwl fy mod yn rheolwraig tŷ bwyta o Beirut wedi’i chaethiwo o fewn i gorff llyfrgellydd o Aberystwyth.
Ond pan ddaw’r eisteddfod heibio dwi’n teimlo fy mod yn cael fy rhyddhau i fod yr hon ydwyf mewn gwirionedd a dyna pam dwi’n mynd i’r eisteddfod bob blwyddyn, er mwyn cadw cyswllt gyda’r ochr hynny i fy mhersonoliaeth. Rydw i’n mynd i’r eisteddfod er mwyn bod yn fam i DJP, DML, RO a phwy bynnag arall sy’n digwydd bod o gwmpas!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael