Ffarwél i Hendrefoelan
A dyna’r wythnos drosodd heb imi sylwi bron. Dau ddiwrnod o eisteddfota, tri diwrnod o deithio o gwmpas, a dau ddiwrnod o wneud dim byd. A dyma fi’n codi’n fore am fod yn rhaid inni adael ‘pentref’ Hendrefoelan cyn inni droi am y diwrnod olaf yn yr eisteddfod. Sut le oedd Hendrefoelan i fyw ynddo am wythnos? Yn y lle cyntaf rhaid dweud fod y lle yn iawn; roedd popeth roedd ei angen arnom ar gael yn y fflat. Roedd y pris yn rhesymol, yn rhesymol iawn o gofio ein bod wedi llwyddo i lenwi bob un o’r saith ystafell. I mi roedd yr offer cegin a’r hyn roedd ei angen i stori a choginio’r bwyd yn ddigon da. Roedd y lle yn dawel ac yn dangnefeddus bron – coed a gwyrddni ym mhob man. Buaswn i’n ddigon parod i argymell unrhyw un sydd am lety rhad a cyfleus i dreulio wythnos yn Hendrefoelan.
Eto, mae’n rhaid imi ddweud fod yn well gen i’r fflat gawsom ni ym Mhrifysgol Bangor llynedd. Er ein bod wedi gorfod dod â’n holl offer gyda ni y tro hwnnw. Yr hyn oedd yn well ym Mangor oedd y ffaith fod ‘na gawod ym mhob ystafell. Felly yn lle gorfod rhedeg lawr y coridor yn borcyn (er doedd dim ots gen i wneud hynny), roedd hi’n haws jyst medru gwneud eich busnes ym mhreifatrwydd eich ystafell eich hun. Dwi’n gwybod fod hynny’n arwydd o’r oes unigolyddol yr ydym yn byw ynddi, ond dyna fel dwi’n teimlo am bethau.
Fel arfer roedd y cwmni yn ddelfrydol. Dwi ddim yn gwybod sut mae’r peth wedi digwydd ond mae’r pedwar ohonom sydd wedi bod yn dod yn gyson wedi dysgu byw gyda’n gilydd yn ddigon jacôs – dim rhyw lawer o gwympo mas. Yn rhyfeddol mae’r un peth wedi bod yn wir pan yr ŷn ni wedi cael cwmni eraill yn y gorffennol fel y Dr HW a IJ. Efallai bod hynny’n digwydd am ein bod ni i gyd yn gwybod beth yw ein rôl ni. Fi sydd yn cael bod yn frenin y gegin – a gwae unrhyw un sy’n fy herio i yn hynny o beth – ac o ganlyniad fi sydd yn trefnu prynu bwyd a diod am yr wythnos – mae RO yn fy helpu fel arfer gyda’i gyngor a’i drafnidiaeth. DML yw ceidwad diwylliant y cwmni, yn sicrhau bod pob cyhoeddiad sydd werth ei gael yn dod ‘nôl gyda’r nos yn boeth o’r wasg a bod yr holl glecs llenyddol yn cael eu gwyntyllu’n llawn. RO yn garedig iawn sy’n bodloni fy chwant i (a’i chwant yntau) am deithio i fan hyn a’r fan’co. A DJP yw’r bon viveur sy’n dysgu’r rhai ohonom sy’n cario Anghydffurfiaeth ychydig yn rhy drom ar ein hysgwyddau i fod yn fwy agored i brofiadau synhwyrus bwyd a diod, cerddoriaeth a barddoniaeth. Ef hefyd sy’n ceisio ein cael i aros ar ein traed yn hwyr y nos i drafod beth yw prydferthwch a gwirionedd, ac weithiau mae’n llwyddo. Ond os ydych chi’n un sydd angen mynd i’r eisteddfod bob dydd rhaid ymatal rhag nosweithiau rhy hwyr yn rhy gyson.
Wrth inni gario ein trugareddau i’r car roedd ychydig o hiraeth yn ein calonnau ni i gyd – wel mi roedd yn fy nghalon i, o leia. Ond doedd y gwyliau ddim ar ben. Heddiw roedd tri ohonom yn mynd i’r eisteddfod – fi, DJP a DML. Roedd RO yn mynd i grwydro Abertawe. Roedd gennym un noson arall yn y ddinas, ond yn aros y tro hwn mewn gwely a brecwast ar gampws Singleton.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael