Pen blwydd hapus i fi!
Rwy’n chwech a deugain oed heb unrhyw chwant priodi… Roedd ‘na adeg pan roeddwn i’n anwybyddu fy mhen blwydd, doedd e ddim yn bwysig imi. Ond ers imi ddathlu fy neugeinfed flwyddyn ar y byd hwn dwi’n gweld pob blwyddyn arall yn gyflawniad sy’n werth dathlu bellach. Roedd fy nathliad heddiw yn mynd i fod ar ffurf gwneud dim byd. Doeddwn i ddim wedi dweud dim wrth neb arall fy mod yn dathlu achos er fy mod i am nodi’r diwrnod nid oeddwn am amharu ar sbort neb arall. Felly ddywedodd neb yr un gair am y peth wrth inni frecwasta. Dyma bawb yn ffarwelio a dyma fi’n mynd ‘nôl i orwedd ar y gwely a gwrando ar ddwy sumffoni gan Beethoven (3 a 6) a sumffoni gan Shostakovitch (11). Roeddwn wedi fy nghyffroi drwyddo ar ôl gwrando arnynt felly fe es i am dro o gwmpas y ‘pentref’ a gweld dim diddorol iawn.
Wedi cinio cymharol syml dyma fynd ati i orwedd unwaith eto a gwrando ar CDs Meinir Gwilym y tro hwn. Doedd dim llawer o waith coginio gen i heno. Roedd DJP yn aros yn yr eisteddfod am ei fod yn cystadlu gyda Chôr ABC. Roedd DML yn mynd ar ei union o faes yr eisteddfod i’r Stwmp wedi’i drefnu gan Academi ym Maes C. Roedd RO yn dod yn ôl i’r fflat cyn mynd ac felly dyma baratoi cawl corbys cochion a reis iddo yntau.
O’r syndod a’r llawenydd wrth i bawb ddod yn ôl y noson honno. Roedd pawb wedi cofio fy mhen blwydd ac yn dwyn anrhegion yn eu dwylo. Cefais wledd o ddarllen a gwrando. Cefais lyfr Cynwil Williams, Rowan Williams: yr archesgob, gan DML; Un bywyd o blith nifer: cofiant Saunders Lewis gan T. Robin Chapman oddi wrth RO; a chyfrol echreiddig-ddiddorol, Hwyaid, cwningod a sgwarnogod: esthetig radical Twm Morys, Vaclav Havel a Bohumil Hrabal yn y gyfres y Meddwl a’r dychymyg Cymreig gan Sioned Puw Rowlands gan DJP. Cefais CD ddiweddaraf Gwilym Morus, Dan y nen, gan DJP hefyd. Dyna ichi syrpreis! Diolch yn fawr i bob un ohonyn nhw.
Dyna sbort bod yw yn 46 mlwydd oed! Ond dwi ddim yn teimlo’n ddim yn hŷn yn fy ysbryd mewn gwirionedd. Os rhywbeth dwi’n teimlo’n iau. Yn gorfforol, wrth gwrs, dwi’n teimlo’n ddeng mlwydd a thrigain! Wel, dyna ni, gallwch chi ddim cael popeth.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael