Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (8)
Pontneddfechan
Weithiau mae’n syndod i mi cymaint y mae’n bosib i’w wneud mewn diwrnod. Buasech chi’n tybio buasai ymweliad â’r Banwen wedi bod yn gopsi ar ddiwrnod fel hwn, ond roedd mwy eto i’w wneud. Yn y Banwen roedden ni ond tafliad carreg o Bontneddfechan a gwlad y rhaeadrau ac roedd RO yn benderfynol os nad oedd wedi cael mentro i grombil y ddaear ei fod am weld rhyw wychder naturiol uwch y ddaear. Felly ymlaen â ni ar ein taith.
Does dim sy’n rhyfeddach na Chwm Nedd. Yng Nghastell-nedd a’r adral mae olion diwydiant yn dal i fod yn eglur iawn ac yn rhannu’r un nodweddion â’r olygfa sy’n ymestryn o ddwyrain Abertawe hyd at Fargam. Oherwydd bod cymaint yn mynd heibio i’r fan bob dydd mae’n rhaid fod y lle hwnnw yn cyrychioli Cymru i nifer fawr o bobol – mwg a thân a chymylau duon. Ond yma, i fyny ym Mhontneddfechan mae dyn yn cael ei hunan mewn gwlad cwbl wahanol. Efallai ein bod yn un o’r ardaloedd tlysaf yng Nghymru ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r hyn sy’n nodweddu’r ardal yn fwy na dim byd arall yw’r rhaeadrau niferus a thrawiadol, yn eu plith Sgwd Gwladus, Sgwd yr Eira a Sgwd Clun-gwyn. Nodweddion daearegol a roes fodolaeth i ogofâu Dan-yr-ogof sydd hefyd yn gyfrifol am y rhaeadrau hefyd, sef cyfuniad o galchfaen a grut melinfaen
Wedi edrych o’n cwmpas doedd hi ddim yn ymddangos yn ymarferol iawn i gerdded at unrhyw raeadr; roedd hi’n cymryd rhyw ddeugain munud neu fyw – deugain awr yn fy achos i sŵr o fod. Felly dyma fynd yn hytrach at Graig Dinas. Mae chwedl yn dweud taw rhywle yng nghyffiniau Craig Dinas y mae’r ogof lle mae Arthur a ddynion yn cysgu yn disgwyl am yr alwad i amddiffyn Cymru rhag ei gelynion. Sylwais i ddim arno ef yno, ond fe wnes i aros yn weddol agos at y car; ond er i RO fynd i grwydro daeth yntau yn ôl heb unrhyw hanes am weld y brenin.
Erbyn hyn roedd hi’n amser dychwelyd i Abertawe os oeddwn i am goginio swper i bawb. Roedd DJP a DML yn yr eisteddfod ac fe fyddai’r ddau yn disgwyl am eu bwyd petawn ni’n treulio mwy o amser yn crwydro. Felly ‘nôl â ni i lawr Cwm Nedd tuag at Gastell-nedd a’r draffordd. Cyn pen dim amser roeddwn i’n bell o unigedd tawel a thangnefeddus Pontneddfechan ar strydoedd prysur Abertawe yn ymladd ein ffordd trwy’r traffig i gyrraedd Hendrefoelan.
Heno, mae’n rhaid imi gyfaddef imi syrthio’n ôl ar rysteitiau roeddwn i wedi’u defnyddio’n gynt yn yr wythnos, sef reis pilaff tomato a ffowlyn wedi’i ffrïo gyda salad iogwrt a chucumer. Er ailadrodd y rysáit roedd pawb yn barod am eu bwyd ac felly ni chlywais neb yn cwyno am hynny. Roedd heno yn noson arbennig hefyd gan fod GW, GTD a RhJ yn ymuno â ni yn y fflat. Aeth pawb allan wedi bwyd, pawb ond DML oedd yn yn dal i ddarllen Dygwyl eneidiau. Es i i’r gwely am ychydig, ond pan ddaeth y criw yn ôl fe wnes i godi er mwyn cael sgwrs. A chan nad oedd hi’n fwriad gen i fynd i’r eisteddfod ddydd Gwener doedd dim pwysau i godi’n gynnar.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael