Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (7)

Glaw, meini hirion a Phadrig Sant

Mynd tuag at Dafarn y Garreg ar yr A4067Yn raddol roedden ni’n rhedeg mas o Gwm Tawe wrth inni ddringo trwy Abercraf, Ynyswen a Chraig-y-nos. Daeth ein taith i’r gogledd i ben wrth inni gyrraedd Bwlch Bryn-rhudd ar y A4067 yn edrych i lawr dros gronfa Crai. Yn sydyn dyma’r glaw yn peidio ac wrth inni droi yn ein holau fe gawsom weld y wlad yn y golau hudolus hwnnw sy’n dilyn glaw. Roedd hi fel petai’r haul yn gweithio yn ddwywaith yn galetach ar ôl cael ei orfodi tu ôl y cymylau am cyhyd.

Dan-yr-ogof, GlyntaweRoedd RO wedi meddwl galw heibio i ogofâu Dan-yr-ogof yng Nglyntawe a dyma alw yno ar ein ffordd yn ôl i lawr y cwm. Roedd y meysydd parcio yn orlawn o bobol yn ceisio dianc rhag y glaw mae’n debyg. Ac mae’n anodd meddwl am le gwell i ddianc rhag y glaw na tan ddaear. Doeddwn i ddim yn mynd i’w ddilyn. Llenwid fy meddwl i gan ddarlun ohonof yn slipo ac yn cwympo ac yn torri fy nghoes ger y stalagteitiau a’r stalagmeitiau a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gorfod cael tîm enfawr o bobol i fy symud i’r ysbyty agosaf. Ond fel mae’n digwydd roedd hi’n rhy hwyr i fynd o dan ddaear a rhaid oedd bodloni ar y meini hirion a’r cromlechi ffug yr oedd cwmni Dan-yr-ogof wedi’u codi o gwmpas y lle. Beth yw atyniad cerrig mawr o’r fath? Anodd credu eu bod nhw’n dal i danio’r dychymyg yn ein hoes sinigaidd, gyfrifiadurol-gyfarwydd ni. Ond dyna lle’r oedd yr holl ymwelwyr yn rhyfeddu at Gôr y Cewri à la Cwm Tawe!

BanwenOherwydd bod gennym amser mewn llaw bellach fe fentrais ofyn a fyddai’n bosib inni fynd i un o’r mannau hynny sy’n haeddu bod yn un o ganolfannau pererindod mwya’r byd, ond sydd mewn gwirionedd yn gilfach sy’n cael ei hanwybyddu gan bawb. Dwi’n sôn am bentref Y Banwen, ger yr Onllwyn. Pam ddylai’r byd fynd i’r Banwen? Wel, dyna fan geni Padrig Sant. Neu i fod yn fwy onest, dyna un o fannau geni posib Padrig Sant. Cyn marw ysgrifennodd Padrig ei hunangofiant, Confessio, neu Gyffes, yn sôn yn bennaf am ei dröedigaeth a’i ffydd Gristnogol. Ond mae’n cyfeirio ychydig at hanes i fywyd cynnar ac felly gellid dweud yn bendant taw ‘Cymro’ oedd Padrig ac nid Gwyddel oherwydd ar Ynys Prydain y cafodd ei eni a’i fagu a ffurf gynnar ar Gymraeg oedd ei famiaith. Cael ei gipio a’i orfodi i Iwerddon fel caethwas yn y lle cyntaf. Y profiadau yma a ysgogodd ei ymchwil ysbrydol a throi at Gristnogaeth o ddifrif – roedd wedi’i fagu mewn teulu Cristnogol. Llwyddodd i ddianc, ond fe deimlai ei fod yn cael ei alw i efengylu a chenhadu yn Iwerddon ac fe ddychlweodd i’r ynys. Mae’r gweddill yn hanes. Dyma beth mae’n dweud ar ddechrau ei Gyffes am ei fywyd cynnar:

Yr oedd gennyf fi, Padrig… y diacon Calpurnius yn dad i mi, mab i’r diweddar Potitus, offeiriad ym mhentref Bannavem Taburniae, lle’r oedd ganddo fila gerllaw lle cefais i fy nghipio. Yr oeddwn yn rhyw un mlwydd ar bymtheg bryd hynny. Nid oeddwn yn adnabod y gwir Dduw, ac fe gefais fy nghipio i Iwerddon gyda miloedd o bobl eraill…

Y cwestiwn mawr yw ble oedd Bannavem Taburniae? Fel y gellid ei ddychmygu mae llawer man yn ceisio mynnu eu hawl hwy ar fan geni Padrig, ond mae achos y Banwen cystal os nad yn well na’r rhan fwyaf. Ond os ewch chi i’r Banwen heddiw welwch chi ddim eglwys fawreddog na chysegr addurnedig. Y cyfan sydd yno yw dwy res o dai ar ganol rhostir noeth ac mae’n anodd dychmygu lle’r oedd fila Calpurnius heddiw. Roeddwn i wedi bod yno o’r blaen, a’r tro hwn eto fe wnes i ymdeimlo â rhyw ysbryd arbennig. Wn i ddim ai dyma oedd bro enedigol Padrig, ond roedd bod yno yn cyffroi fy nychymyg. Gwych!

Banwen

Banwen heddiw
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>