Ysgol Gyfun Ystalyfera / Ysgol Gyfun Ystalyfera
Nid dyna ddiwedd ein taith. Roedden ni am gyrraedd Glyntawe a hyd yn oed tu hwnt. Ond y lle cyntaf inni alw heibio iddo oedd Ystalyfera, ar y ffin bellach rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Lle arall muthig, oherwydd bodolaeth Ysgol Gyfun Ystalyfera. Pan roeddwn i’n y coleg yn Aberystwyth ddiwedd y 1970au ymddangosai fel bod rhyw draean o drigolion Neuadd Pantycelyn yn alumni. Roedden nhw’n dod mewn pob lliw a llun, yn blant ardaloedd traddodiadol Cymraeg fel Cwmllynfell a Chwm-twrch a phlant dosbarth canol Abertawe, ond roedden nhw i gyd yn dod â Chymraeg eu hunain gyda nhw. Fe wnes gyfeillion o un neu ddau, ac rwy’n dal i’w gweld yn achlysurol. Dysgais hefyd am rai o hynodion tafodiaith nifer ohonynt; efallai am y tro cyntaf y clywais yr arfer o galedu cytseiniaid a deall hynny, ac wedyn doedd y ffurf ‘Smutw’ fel cywasgiad o Ynysmeudwy ddim cymaint o ddirgelwch, ond yr un mor ddifyr.
Dwi wedi sylwi o’r blaen sut mae dwyieithrwydd yn arwain weithiau at sefyllfaoedd rhyfedd. I bobol nad ydyn nhw’n ddwyieithog mae’r holl gysyniad yn annealladwy. Dyna sydd i’w gyfrif am arwydd rhyfedd y tu fas i Ysgol Gyfun Ystalyfera, arwydd wedi’i godi gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Enw Cymraeg Ysgol Gyfun Ystalyfera yw Ysgol Gyfun Ystalyfera, a does dim ffurf Saesneg ar yr enw; ac felly yn ddefodol ar yr arwydd ceir ‘Ysgol Gyfun Ystalyfera’ uwch ben ‘Ysgol Gyfun Ystalyfera’!

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael