Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (5)

Salad couscous ym Mhontardawe

Camlas Abertawe, Pontardawe ac Eglwys S. Pedr, LlangiwgDyw Pontardawe ddim yn lle mawr iawn, ond fe lwyddodd RO a finnau i dreulio rhyw awr a hanner yn crwydro’r strydoedd ac yn bwyta. Fe welsom ni’r gamlas ac Afon Tawe, y ganolfan celfyddydau a’r cofebau, ambell i siop fan hyn a fan ‘co, ac wrth gwrs tai bach digon safonol (os nad cystal â rhai Treforys). Dwi ddim yn gwybod rhyw lawer am hanes y lle, ond mae’r enw yn awgrymu bod y bont dros Afon Tawe yn arwyddocaol. Ond nid dim ond afon sy’n llifo trwy’r lle ceir camlas hefyd ac mae honno erbyn hyn wedi’i throi yn atynfa i dwristiaid fel popeth yng Nghymru bron, ac yn bendant popeth yn y cymoedd.

Roedd rhyw deimlad o amser wedi mynd heibio i’r lle yma hefyd. Roedd hynny’n rhannol oherwydd y diffyg traffig. Creda i ei bod hi’n uffern pan roedd y brif ffordd yn mynd trwy ganol y dref ei hun, ond mae dim traffig o gwbl yn creu rhyw ymdeimlad Marie Celesteaidd yn y lle.

Cinio 2006-08-10Roedd hi’n amser cinio ac fe benderfynon ni gael cinio mewn bwyty bach cartrefol yr olwg nid nepell o’r gamlas. Enw’r bwyty oedd Bishop’s, er nad oedd arwydd ar y tu fas i ddweud hynny. Y tu mewn yr oedd yn gymysgedd ryfedd o Bontardawe a Barnet – caffi’r cymoedd, ond yn lle ffagots a phys, neu chip butty, roedd ‘na salad couscous a thomatos wedi’u sychu yn yr haul, salad pasta mewn gwisgiad Cesar, quiche, &c. Rydych chi’n gwybod fod y chwyldro bwyd wedi digwydd pa fo tomatos wedi’u sychu yn yr haul ar y fwydlen mewn caffi ym Mhontardawe. Efallai taw’r ŵyl cerddoriaeth byd sy’n gyfrifiol am y trawsnewid yn chwaeth cogyddol y lle. Ges i’r quiche gyda dewis o saladau ac fe gafodd RO chili con carne gyda reis. Roedd yn flasus dros ben ac fe fusen i wedi cael pwdin hefyd heblaw fod y quiche a’r saladau wedi llenwi fy mola.

Er gwaetha’r glaw roedd Pontardawe yn lle digon dymunol i dreulio rhyw hanner diwrnod. Dwi’n siŵr petai’r llyfr wedi’i ysgrifennu am orllewin Morgannwg yng nghyfres siroedd Dryw slawer dydd buasai’r lle wedi bod hyd yn oed yn fwy diddorol.

Rhagor o luniau o Bontardawe.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>