Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (4)

Pontardawe

PontardaweO fewn dim roedden ni wedi cyrraedd Pontardawe. Doeddwn i ddim wedi bod yno ers canol yr 1980au, ond doedd gen i ddim rhyw gof cryf iawn am y lle. Heddiw yr oedd hi’n bwrw, dwi’n gwybod taw dim ond glaw mân oedd e, ond roedd hi’n bwrw a finnau wedi bod mor ffôl â dod mas heb got. Felly os oeddwn i am grwydro o gwmpas yr oedd yn rhaid cael rhyw fath o gysgod – allen i ddim jyst anwybyddu’r glaw hwn. Fel mae’n digwydd dyma RO yn parcio tu ar y sgwâr ger y gofeb ryfel a’r siop gyntaf a welais i oedd rhyw siop pob peth, ac yno ar silff ar ei ben ei hun y cefais ymbrelo yn plygu am £1.99. Bu’n gymorth mawr wrth inni gerdded o gwmpas y dref yn y glaw.

Cofeb, PontardaweMae rhyw fath o ymdrech i ymbincio’r dref wedi digwydd gyda chanolfan gelfyddydau ar y sgwâr. Dyna lle mae’r gofeb ryfel a’r gofeb i dri o enwogion lleol, er mae’n rhaid imi gyfaddef taw dim ond am ddau ohonynt yr oeddwn i’n gwybod unrhyw beth o bwys, sef Gwenallt (o’r Alltwen ar lan arall Afon Tawe roedd e’n dod, mewn gwirionedd, a dyna lle gafodd ei enw) a T. J Morgan (o’r Glais, tad y Prif Weinidiog Rhodri Morgan). Y llall oedd Tom Ellis Lewis, a ddisgrifir gan y gofeb fel Telor Alltwen, Athro, Cyfreithiwr a Chyfaill. Comisiynwyd y gofeb gan Gymdeithas Ddinesig Pontardawe yn 1992. Mae’n gofeb eithaf gwahanol ac erbyn mae’n ymddangos fel petai rhywbeth ar goll. A oedd bwriad yn wreiddiol i fflam neu rywbeth arall fod ar ben y gofeb?

Am ryw reswm roedd byntin ar hyd strydoedd Pontardawe ac am ryw reswm roedden nhw yn lliwiau’r wladwriaeth – coch, glas a gwyn. Mae’n siŵr fod ‘na esboniad, a dwi’n siŵr na fyddwn i am glywed yr esboniad hwnnw.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>