Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (3)

Llyfr Coch a fan Somerfield

Dilyn fan Somerfield yn YnysforganRoedd hi’n dechrau pigo glaw wrth inni adael Treforys, o fewn dim a ninnau’n gyrru trwy Ynysforgan y tu ôl i fan Somerfield yr oedd hi’n bwrw’n eithaf trwm. Gyda’r glaw fe ddaeth niwl, ac ni chawsom y daith yr oeddem wedi disgwyl ei chael i fyny Cwm Tawe a mynd trwy’r holl bentrefi adnabyddus. Ond fe gawsom weld y lle mewn tywydd sydd siŵr o fod yn fwy nodweddiadol na’r haul tanbaid a’r sychdwr sydd wedi nodweddu’r wythnosau a’r misoedd diwethaf.

Fel y dywedais, y lle cyntaf inni deithio trwyddo oedd Ynysforgan. Roedden ni’n osgoi Ffordd Cwm Tawe (A4067) ac yn dilyn yr B4603. Yma roedd cartref Hopcyn ap Tomos y lluniwyd Llyfr Coch Hergest ar ei gyfer; dwi’n gwybod bod cofeb wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar i nodi hyn ym Mharc Ynystawe, ond roedd y tywydd yn golygu nad oedd hi’n bosib mynd i chwilio amdani heddiw. Un rheswm eto dros ddychwelyd i’r ardal. Roedd Hopcyn ap Tomos ab Einion (ca.1330 – ar ôl 1403) yn unigolyn diddorol heblaw iddo gomisynu’r Llyfr Coch. Pan oedd ymgyrch Owain Glyn Dŵr yn ei hanterth yn 1403 fe gafodd Hopcyn ei alw i Gaerfyrddin o Ynystawe er mwyn dweud wrth y Tywysog beth oedd ei ddyfodol oherwydd ei fod yn awdurdod ar ddarogan. Mae hanes diddorol am sut y cafodd y gofeb ei chodi hefyd. Digwyddodd hynny yn 1955 yn dilyn darlith gan Henry Lewis am Hopcyn ap Tomos a gyffrôdd yr ardal gyfan i fynd ati i gasglu tuag at godi’r gofeb. Dim rhyfedd fod pobol Ynysforgan ac Ynystawe wedi’u cyffroi. Dyma beth sydd gan y Bywgraffiadur ar-lein i’w ddweud amdano:

HOPCYN ap TOMAS (c.1330-wedi 1403), uchelwr,a drigai yn Ynysdawy ym mhlwyf Llangyfelach, mab Tomas ab Einion, sef yr Einion hwnnw y mynnai ‘Iolo Morganwg’ mai Einion Offeiriad ydoedd. Lluniodd ‘Iolo’ bob math o straeon am y teulu hwn, a throes Hopcyn yn fardd, yn awdur rhamantau a damhegion a gramadegau, etc. Ymgais a geir yma i egluro’r cyfeiriadau a geir ato yng nghanu beirdd y 14eg g. Ceir yn ‘Llyfr Coch Hergest’ bump o awdlau a ganwyd iddo, ac y mae’r cynnwys yn dangos ei fod nid yn unig yn un o brif noddwyr y beirdd yn y Deheudir, ond hefyd yn ŵr a ymddiddorai yn eu celfyddyd ac a gasglai lawysgrifau Cymraeg. Yn 1403, pan oedd Owain Glyndŵr yng Nghaerfyrddin, anfonodd wŷr i gyrchu Hopcyn ap Tomas fel y gallai egluro iddo pa oleuni a daflai’r hen ddaroganau ar ei dynged ef. Edrychid arno fel ‘maister of Brut,’ hynny yw, fel awdurdod ar yr hen ddaroganau. Y mae Hopcyn ap Tomas yn enghraifft wych o’r uchelwr Cymraeg diwylliedig yn y 14eg g. Dywedir yn llyfrau’r ganrif ddiwethaf ac yn Hopkiniaid Morganwg, 1909, fod Hopcyn ap Tomas yn perthyn i’r un teulu â Hopcyniaid Llandyfodwg a’r cyffiniau. Nid oes dim sail i hyn oll. ‘Iolo Morganwg’ biau’r ddamcaniaeth hon.

Ymlaen â ni wedyn drwy’r glaw i fyny’r cwm. Trwy Ynystawe a Chlydach hyd at Drebannws. Fel Treforys mae gan yr enw Trebannws ryw hud i mi oherwydd y bobol sydd wedi bod yn sôn amdano, hen ffrindiau a chydnabod coleg ac mae’r lle wedi parhau yn fyw yn fy meddwl. Roeddwn i wedi gobeithio galw heibio i’r pentref heddiw, ond roedd y glaw yn rhy ddiflas i feddwl am fynd o gwmpas y lle heb wybod yn iawn lle’r oeddwn i’n mynd. Ond yn Nhrebannws fe sylwais ar arwydd yr ysgol gynradd, Ysgol Gynradd Gymraeg Draddodiadol Trebannws – dwi ddim yn gwybod beth yn gywir yw ystyr teitl fel ‘na, ond mae’n drawiadol. Mae’n rhyfedd fel y bu i rai llefydd fodoli yn fyw iawn yn fy nychymyg er na chefais gyfle i ymweld â hwy am flynyddoedd. Mae’r enwau yn creu’r lle yn y meddwl – Plwmp, Sblot, Llanddewibrefi, Llanbryn-mair, Trebannws – ond erbyn heddiw dwi wedi llwyddo i ymweld â’r rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru. Mae ‘na ddyrnaid sy’n dal i fod ar fy rhestr, yn eu plith Ynys Enlli, Trimsaran (er fy mod wedi mynd trwyddo), Llandeilo Pertholau, Trelawnyd, a Dinas Powys. Oherwydd y glaw mae Trebannws hefyd yn dal i fod yn un o’r llefydd hynny. Fe ddaw’r cyfle rhyw ddydd mae’n siŵr.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (3)

  • Emyr

    Mi’r oedd ysgolion elfennol Gymraeg yn ardal Abertawe, cyn bod ysgolion “penodedig” Cymraeg yn cael eu creu yn llefydd fel Pontardawe. Dyma yw’r ysgolion Cymraeg “traddodiadol” neu “naturiol”. Hyd nes yn gymharol ddiweddar, ‘roedd Ysgolion Cynradd Felindre a Garnswllt yn yr un categori. Rwy’n amau fod ysgolion yn uwch i fyny’r cwm hefyd, megis Rhiwfawr, yn y categori hwn (er eu bod nhw, fel Trebannws) mewn Sir gwahanol bellach. Newidiwyd categori Felindre yn ysgol benodedig oherwydd yr ofn (cyfeiliornus mae’n debyg) y gallasai hithau droi’n ysgol Saesneg (fel y digwyddodd, medden nhw, i Ysgol Craig-Cefn-Parc) pe na wnaed hynny.

    Mae Somerfield ardderchog yng Nghlydach ac yn Nhreforys, er bod Lidl a Thesco rhyngddynt wedi difa’r un enfawr oedd ym Mhontardawe.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>