Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (2)

Treforys, Tabernacl a thoiledau

TreforysMae Treforys wedi bod yn lle ‘chwedlonol’ i mi hyd heddiw: wedi clywed amdano, wedi darllen amdano, ond heddiw yw’r tro cyntaf imi gerdded ei strydoedd. Fe fues i drwy’r lle mewn car ac heibio i’r Tabernacl cyn hyn, ond dyma’r tro cyntaf imi fedru gweld y siopau a’r eglwysi, a’r bobol yn iawn. Yn anffodus glywais i neb yn siarad Cymraeg yma, fel yr oeddwn wedi gobeithio ei wneud. Fe fues i yn Banc LloydsTSB a gofynnais i wrth yr ariannwr oedd yn fy nghynorthwyo a oedd yn siarad Cymraeg ond “na” oedd ei hateb. Er bod y lle yn edrych yn weddol dlodaidd roedd ‘na gymeriad i ganol Treforys, ambell i siop gadwyn yn unig a’r gweddill yn siopau bychain lleol. Ac mi roedd y lle yn brysur gyda phobol yn mynd a dod ym mhobman.

Treuliais dipyn o amser yn edmygu capel Tabernacl. Mae’n amlwg fod llawer o arian wedi’u gwario ar gadw’r lle i edrych yn daclus ac yn lân. Roedd y gwaith carreg uwchben y drysau ffrynt a’r ffenestri yn edrych yn dda iawn. Un bai oedd yn fy marn i, sef nad oedd hi’n bosib mynd yn agos at y capel ei hun gan fod y giatiau wedi’u cloi. Doeddwn i ddim yn disgwyl medru mynd i mewn, a dwi’n siŵr fod pawb oedd yn medru bod yn yr eisteddfod fan’co. Bydd yn esgus er mwyn dod ‘nôl yma. O beth dwi wed’i weld mewn ffotograffau ac ar y teledu mae’r tu fewn yn adlewyrchu gogoniant y tu fas. Mae tŵr y cloc yn nodwedd ryfeddol, i bob pwrpas mae gan y capel cynulleidfaol hwn feindwr uwch na llawer eglwys Anglicanaidd, llawer uwch na’r ddwy eglwys o fewn tafliad carreg i’r Tabernacl ei hun. Yr hyn oedd yn ddiddorol am un ohonynt, Eglwys Dewi Sant, oedd bod ‘na gymun Cymraeg yn cael ei weinyddu yno bob Sul. Mae ‘na bobol sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg yma, ond efallai bod nifer go dda ohonyn nhw yn yr eisteddfod heddiw.

Capel Tabernacl, Treforys

Cyn gadael roedd yn rhaid defnyddio’r tai bach cyhoeddus yn dwyn y teitl rhyfeddol ‘Toiledau Treforys’ ac wedi ennill anrhydedd yng nghystadleuaeth Tai bach y flwyddyn yn 2001. Fe wnaeth RO a finnau sylwi bod ‘na dai bach cyhoeddus cyfleus i’w cael yn nifer o’r pentrefi a’r trefi y buon ni’n ymweld â nhw yn ystod y dydd. Rhywbeth da sy’n werth ei gymeradwyo i bob cyngor sir, tref a chymuned.

Rhagor o luniau Capel Tabernacl, Treforys.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (2)

  • Diolch am y nodyn hynod ddiddorol HuwW.

    Dyma beth a ddywedir ar y garreg sylfaen:
    “THE FOUNDATION STONE OF THIS
    TABERNACLE
    WAS LAID BY
    Miss HUGHES YNYSTAWE
    26TH NOVEMBER 1870″

    I’r rhai sydd heb ei gweld fe wnes i dynnu llun o’r garreg sylfaen a osodwyd gan Miss Hughes. Dyw’r llun ddim yn un da iawn dwi’n cyfaddef, ond roedd yn rhaid tynnu’r llun o bell oherwydd fod y gatiau wedi’u cloi pan wnes i ymweld â’r lle.

  • HuwW

    Mae arysgrifen carreg sylfaen eglwys y Tabernacl yn ddiddorol iawn. Mary Elizabeth Anne Hughes (‘Morfydd Glantawe’) oedd y wraig ifanc hon a osododd y garreg ym 1870, – a hithau’n ferch i Richard Hughes y diwydiannwr cyfoethog o Gwmtawe. Ef oedd un o berchnogion gweithiau alcan Glandŵr (Landore) yn ymyl Abertawe. Daeth Morfydd Glantawe yn wraig i John Williams, y meddyg brenhinol ym 1872. Ef, fel y gwyddost, oedd un o brif sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a chyflwynodd ei gasgliad helaeth o lyfrau a llawysgrifau Cymraeg i’r genedl. Fe fydd llawer o sôn am Syr John pan ddethlir canmlwyddiant y Llyfrgell y flwyddyn nesaf, mae’n debyg. Bu Morfydd Glantawe farw ym 1915 a gadawodd ffortiwn ar ei hôl, – sef cyfran o gyfoeth ei thad. Mae’n wir i Syr John ddod yn ŵr o gryn gyfoeth ei hun yn rhinwedd ei swydd fel meddyg, a gadawodd £123,742 yn ei ewyllys pan fu farw ym 1926. Ond ‘hen’ arian ei wraig, mae’n debyg, a’i galluogodd i brynu casgliadau Hengwrt-Peniarth a’r trysorau eraill a fu’n eiddo iddo ac a welir yn Llyfrgell Genedlaethgol Cymru heddiw. Tybed faint o sylw a gaiff Morfydd Glantawe yn y dathliadau?

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>