Eisteddfod – Dydd Iau 10 Awst 2006 (1)
Cocos a chapeli
Bore arall, a dim ond dau i fynd yn Hendrefoelan, a heddiw rydyn ni’n troi ein cefnau ar yr eisteddfod unwaith eto a mynd i deithio – fi ac RO, hynny yw. Heddiw rydyn ni’n bwriadu mynd tua’r gogledd ar hyd Cwm Tawe ond gan ddechrau yn Nhreforys. A dyna fi’n dod i fy nghwestiwn cyntaf. Yn ddi-Elwyn Davies fel yr ydw i yn yr eisteddfod dwi’n methu gwirio pa ffurf ar enw’r lle sydd ganddo yn ei Rhestr o enwau lleoedd, gan fod dwy ffurf i’w gweld yn eithaf cyffredin – Treforys a Threforus. Mae’n ymddangos fod Treforys yn ennill, ond nid y ffurf gywir sy’n ennill bob tro. Dwi’n ceisio dod â rhai llyfrau cyfeiriol gyda fi i bob eisteddfod er mwyn darparu atebion a thawelu dadleuon cyn iddyn nhw fynd yn rhy eithafol. Yn ddelfrydol dylen i fod wedi dod â’r canlynol: Beibl (yr hen gyfieithiad a’r newydd, wrth gwrs), Caneuon ffydd, Y bywgraffiadur Cymreig, Geiriadur Prifysgol Cymru, Gramadeg y Gymraeg Peter Wyn Thomas, a Rhestr o enwau lleoedd Elwyn Davies. Ond eleni fe wnes i eu hanghofio hwy i gyd – ond fe ddes i â Thestament Newydd Cymraeg (cyfieithiad 1988).
Er mwyn cychwyn y dydd yn y dull cywir fe gafodd RO a minnau frecwast hanner-Abertawe, sef cig moch a chocos, ond dim bara lawr yn anffodus. Fy mai oedd hynny am fy mod wedi peidio â phrynu bara lawr ym marchnad Abertawe allan o barch i fardd sensitif ond wedyn wedi ‘difaru peidio â gwneud ac wedi gobeithio gweld peth yn Tesco. Roedd Tesco yn rhy fawr i redeg o gwmpas yn chwilio am ychydig o gynhwysion fan hyn a fan ‘co, felly brecwast di-fara lawr oedd ein brecwast.
Wedi brecwast dyma gychwyn am Dreforys (dyna’r ffurf y byddai’n ei defnyddio am weddill y blogiad hwn). Roeddwn i wedi bod trwy Dreforys o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf imi aros yno i wneud ychydig o grwydro. Y peth mawr am y lle, wrth gwrs yw presenoldeb dau o’n heiconau pensaernïol cenedlaethol – adeilad y DVLA a chapel Tabernacl. Er bod y Tabernacl yn fawr mae’n diflannu yng nghysgod adeilad y DVLA. Does dim ots o ba gyfeiriad yr ydych yn teithio mae’r adeilad i’w weld. I fi mae’n debyg i’r mynydd hwnnw yn ffilm Spielberg Close encounters of the third kind sy’n denu pobol ato. Mae ei enfawredd yn drawiadol iawn wrth ddynesu ato, ac wrth gwrs mae’n amhosib dal yr enfawredd hwnnw mewn llun, mae’n rhywbeth y mae’n rhaid ei brofi drosoch eich hun.
Fe wnes i alw y DVLA a’r Tabernacl yn eiconau – a dyna ydyn nhw, un yn cynyrchioli Cymru anghydffurfiol fuddugoliaethus y gorffennol, a’r llall yn cynrychioli y Gymru ddibynnol-ar-y-wladwriaeth bresennol. Dwi’n gwybod fy mod yn cyffredinoli yn fawr wrth ddweud hynny, ond mae ‘na ryw wirionedd yno hefyd.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael