Glenda Slagg a chnau pîn
Wedi galw i mewn i babell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i weld DML a phawb oedd yno dyma fynd yn ôl tuag stondin Cyngor Llyfrau Cymru i gwrdd â DJP ac RO ar gyfer cael lifft ‘nôl i ‘bentref’ Hendrefoelan. Yr oedd pawb yn trafod enillydd y Fedal Ryddiaith, sef Fflur Dafydd, gyda’i nofel Atyniad. Mae’r peth yn ddigon i’ch gwneud sâl, neu fel buasai Glenda Slagg yn ei ddweud “Dontcha feel sick”. Mae Fflur Dafydd yn ddarlithydd prifysgol mewn Saesneg, llenor Cymraeg, golygydd, colofnydd a sylwebydd, ac yn fwy na dim byd arall cantores a pherfformwraig wych. Dwi’n teimlo fel ‘dafad farw’ hyd yn oed wrth sôn amdani.
Oherwydd fy nesperasiwn i gael cnau pîn roeddwn wedi gofyn am gael galw heibio i siop Tesco Extra yn Fforest-fach ar y ffordd. Mae siopau o’r fath wedi’u cynllunio er mwyn eich gorfodi i gynaeafu’n raddol wrth fynd trwyddi a gorffen eich taith gyda throli gorlawn. Roeddwn i ond wedi meddwl cael un neu ddau o bethau ac roedd yn rhaid gofyn i’r staff am leoliad y pethau hynny a cherdded rhyw hanner milltir. Ond o’r diwedd fe gefais gnau pîn ac roeddwn i’n gwningen hapus iawn. Roeddwn i am y cnau pîn ar gyfer y pryd nos. Heno roeddwn am wneud rhywbeth nad oeddwn wedi’i fentro o’r blaen, sef coginio pysgodyn gyda reis a saws winwns – saig sy’n gyffredin yn y gwledydd Arabaidd ac sy’n cael ei hadnabod fel Sayyadieh.
Rwy’n diolch i Tesco am fod yno ar gyfer y cnau pîn. Ond fe wnaeth RO ein hatgoffa cymaint o fonopoli sydd gan Tesco yn y farchnad yn gyffredinol ond o ran bwyd mae rhyw 30% o wariant Prydain yn digwydd yn siopau Tesco. Roeddwn i’n arfer dwli ar siop fel Tesco oherwydd y dewis a’r amrywiaeth o gynnyrch a oedd i’w cael yno, ond erbyn hyn mae’r lle yn ymddangos yn ormesol, yn unbenaethol. Dwi’n teimlo o dan fygythiad oherwydd bod y lle mor fawr. Ond mae cyfleustod yn bwysig a dyna lle’r oedd lle fel marchnad Abertawe yn wych. Doedd dim rhaid mynd o siop i siop ar hyd a lled y ddinas, ond yn hytrach roedd degau o fasnachwyr yn y fan a’r lle, yn agos at ei gilydd ond cynnig dewis mawr o gynnyrch a phrisiau. Pwnc anodd yw hwn achos fod Tesco wedi tyfu yn fawr wrth roi’r hyn y mae pobol eisiau iddyn nhw, ond wrth gynyddu mewn maint a dylanwad mae’n bygwth ei gwsmeriaid a’i gyflenwyr. A pham bod y cyflenwyr o dan bwysau? Er mwyn i ni gael y bwyd rhad a’r bwyd unffurf yr ydym yn ei hoffi ac yn ei fynnu. Anodd iawn.
Ond diolch byth am y cnau pîn! Nawr dwi’n gwybod y dylen i deimlo’n euog am ddefnyddio cynhwysion sy wedi gorfod teithio mwy na rhyw 150 km i gyrraedd fy mord. Ond fel dwi’n dweud dwi’n mwynhau bananas, a buasai gorfod byw ar swêds a garets trwy’r gaeaf yn fy ngyrru’n ddwl. ‘Ta beth, gweithiodd popeth yn iawn gyda’r Sayyadieh. Roeddwn i wedi paratoi’r saws winwns ymlaen llaw er mwyn arbed peth amser gan fy mod wedi mynd i’r eisteddfod heddiw. Roedd yn flasus iawn a’r hyn oedd yn rhyfedd oedd bod yr elfen winwns ddim yn blasu’n winwnsaidd iawn. Diddorol. Ac roedd y cnau pîn yn goron ar y cyfan.
Wedi swper a golchi’r llestri dyma setlo lawr o flaen teledu DJP i wylio’r eisteddfod yn fyw. Y sioc fwyaf oedd bod Côr Ger y Lli o Aberystwyth wedi ennill y gystadleuaeth i gorau ieuenctid, nid nad oedden nhw’n dda, ond roedd hi yn ymddangos fel petai Glanaethwy yn mynd i ennill. Dyna oedd farn y sylwebydd yn y stiwdio ac roeddwn i ‘n ddigon parod i gytuno â hi. Mae’n dda nad yw popeth mewn bywyd yn troi mas fel ych chi’n disgwyl iddyn nhw wneud. Efallai bod gobaith imi ennill y gadair o hyd!

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael