Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (6)

Y gawell unwaith eto

Y gawell tu fas i'r Lle CelfFel y dywedais y tu fas i’r Lle celf roedd ‘na gawell fawr a thu mewn i’r gawell roedd Catrin Dafydd a Rowley Clay yn perfformio. Yn anffodus fe gollais i berfformiad olaf y dydd, ond roedd Catrin yn dal i fod y tu fewn a Rowley y tu fas. Roedd hi’n dda cael siarad gyda Catrin gan ei bod yn unigolyn gwreiddiol sy’n fodlon dweud ei barn yn ddi-flewyn-ar-dafod. Roedd ei phartner yn y perfformiad yn ddyn diddorol hefyd, Rowley o Sant Hilari ym Mro Morgannwg. Doedd e ddim yn siarad Cymraeg, ond roedd e’n mynnu gwneud; golygai hynny fod cyfathrebu ychydig yn fwy anodd na’r arfer. Ond roedd e’n hapus yn gwneud hynny, ac felly man a man imi gydweithredu. Cefais sgwrs gyda’r ddau am beth roedden nhw’n ceisio’i wneud ond heb weld y perfformiad yr oedd braidd yn anodd gwerthfawrogi’r esboniad.. Yn ddiweddarach fe glywais ganmol mawr i’w perfformiad ar raglen Y sioe gelf ar S4C. Trueni fy mod heb ei weld. Efallai y daw cyfle eto. Roedd y gawell ei hun yn drawiadol ac roedd torf wedi ymgasglu o’i chwmpas. Roedd y perfformiad yn ymwneud ag iaith a geiriau ac un o’r pethau yr oedd Catrin yn gofyn i bobol ei wneud oedd ysgrifennu eu hoff eiriau Cymraeg ar lawr y gawell mewn sialc. Roedd hi’n rhy hwyr imi wneud, ond hoffwn rannu gyda’r byd taw un o fy hoff eiriau Cymraeg i yw ‘ambiwlans’. Dwi’n hoff iawn hefyd o’r geiriau canlynol: ‘goddiweddyd’, ‘rhyngweithio’, ‘negodi’, ‘cyfwynebu’, ‘argaeledd’. ‘digartrefedd’, ‘cynhwysiant’, ‘dyfrlliw’, ‘ffroes’, ‘ffrotais’, ‘nisied’, ac ‘aerwy’. Detholiad yn unig o fy hoff eiriau yw’r rhain – dwi’n siŵr fod Catrin yn falch nad oeddwn wedi dechrau eu hysgrifennu ar lawer y gawell!

Dwi’n gobeithio hefyd fod y ddysgwraig o Gwm Rhymni a gyfarfyddais yn y Lle celf wedi cael cyfle i werthfawrogi’r perfformiad hwn!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>