Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (5)

Y Lle Celf

Y tywysydd gwych yn y Lle celfDwi ddim rhoi amser go iawn i’r Lle celf ar faes yr eisteddfod ers blynyddoedd, felly gyda rhyw dair awr ar ôl ar y maes fe wnes i ddweud y buaswn yn treulio’r hyn oedd ei angen yno. Wrth gerdded i mewn i’r arddangosfa fe sylwais ar hysbyseb am deithiau tywys deongliadol o gwmpas yr arddangosfa. Felly dyma benderfynu ymuno â’r grŵp. Fel mae’n digwydd pan ddaeth yr awr dim ond fi oedd yn y grŵp a dyma’r tywysydd hynaws yn dechrau ar ei gwaith. Daeth un neu ddau arall i ymuno gyda ni jyst wrth inni ddechrau. Ar ôl canu clodydd dysgwyr mae’n rhaid imi gyfaddef fod ‘dysgwr’ yn un o’r rhai wnaeth ddod aton ni. Roedd hi’n ddysgwraig oedd yn perthyn i’r ysgol “I nearly understood everything you said”. Dyna ichi osodiad diystyr, ac o ddim help i’r tywysydd wrth benderfynu ar ba lefel o iaith oedd angen iddi ei ddilyn. Dywedodd nad oedd ganddi ddigon o amser i ddilyn y daith yn ei chrynswth, a bues i bron ag awgrymu y buasai’n well defnydd o’i hamser petai’n gorffen dysgu Cymraeg wedyn buasai dim o’r ffws am “I nearly understood everything you said.” Ond yn rhyfedd iawn roedd ganddi gyfeilles oedd yn uniaith Saesneg ac roedd hi’n troi ati’n achlysurol ac yn cyfieithu beth oedd yn cael ei ddweud! Yn ôl ei hacen roedd aelod arall y grŵp yn dod o ardal Caernarfon. Aelodau eraill y grŵp oedd ‘dysgwraig’ arall, o Gwm Rhymni, a’i chyfeilles. Roedd y ddysgwraig o Gwm Rhymni â syniadau pendant iawn iawn a beth oedd yn gelf a beth nad oedd yn gelf – daeth hyn i’r amlwg yn ystod y daith o gwmpas yr arddangosfa.

Felly dyna ni yn dechrau ar ein taith i ddarganfod sefyllfa celfyddyd gain yng Nghymru heddiw. Roedd yn daith anturus, llawer mwy anturus mewn llawer ffordd na mynd i Begwn y De. Dechreuodd yn ddigon tawel ac ufudd. Y darnau cyntaf inni edrych arnyn nhw oedd ffotograffau Aled Rhys Hughes Ffarwél rock. Ef a enillodd y Fedal aur am gelfyddyd gain. Mae’r ffotograffau yn dangos y graig lle’r oedd y wythïen lo yn dod i ben. Ond mae e wedi tynnu’r ffotograffau mewn ffordd fel nad ydynt yn ffotograffau o’r lle gan nad oes gorwel ynddynt a dim ffordd i ddeall eu graddfa mewn gwirionedd. Trawsffurfiwyd y real yn afreal; ar yr olwg gyntaf maent yn ffotograffau haniaethol, dim ond wrth eu darllen yn ofalus y gwelir gwrthrychau cyfarwydd – cerrig, nentydd, afonydd, eithin, &c. Roedd y printiau yn yr arddangosfa yn rhai cain iawn hefyd a bron yn gwneud ichi feddwl eu bod yn baentiadau; pan roeddwn i fe ddaeth nifer at y ffotograffau a chyffwrdd â hwy er mwyn cadarnhau a oeddent yn baent ai peidio. Ar y cyfan roedd y grŵp yn gwerthfawrogi’r gweithiau hyn.

Mae’n amlwg fod y tywysydd am ein herio ac am gael rhyw ymateb gennym ni, a dyna a ddigwyddodd pan y’n tywyswyd at Posibiliadau/Possibilities gan Rosemary Edwards o Gaerdydd. Yn y lle cyntaf rhaid disgrifo’r darn: sef darn enfawr o does mewn lliain wedi’i hongian o’r nenfwd ond ei fod yn gorwedd ar y llawr. Wrth ddod yn agos ato y peth cyntaf oedd yn eich taro oedd gwynt y burum yn gweithio. Ac ar unwaith dyma fi yng nghegin fy mam ym Mynachlog-ddu a finnau’n blentyn yn ei gwylio hi yn pobi bara. Dwi’n cofio fel yr oedd y toes yn tyfu yn fy rhyfeddu. Yn y cyd-destun hynny fe ges fy nghyffroi gan y darn. Cyffrowyd y ddysgwraig o Gwm Rhymni gan yr un gwaith, ond mewn ffordd wahanol iawn. “This is rubbish. It reminds me of the story of the emperor’s new clothes”. Doedd hi ddim yn anfoesgar ond roedden ni i gyd yn ymwybodol beth oedd ei barn hi am y peth. Roedd ein tywysydd hynaws yn arbennig o ddiplomataidd yn ei hymateb, “I hm here to interpret not to pass judgement.” Mae’n rhaid i mi gyfaddef imi gael fy nghyffroi i amddiffyn y darn, a dyma fi’n dechrau dweud beth oedd fy ymateb i a’r modd yr oedd Posibiliadau yn deitl gwych gan nad oedd neb yn gwybod beth allai ddigwydd. Ymateb y ddysgwraig o Gwm Rhymni oedd “It’s allright for you academics to think these things.” Nid wyf fi’n arlunydd nac yn hanesydd celf, ymateb personol ac uniongyrchol i’r darn oedd hwnnw. Rhaid dweud ei fod yn brofiad emosiynol i mi ail-fyw y profiadau hynny a brofais yng nghegin Llain Rhosibica.

Efallai fod hyn wedi bod yn sbardun i’r tywysydd i’n herio ni’n bellach. Dwi’n siŵr ei bod yn gystadleuaeth i weld pwy a allai gyffroi ei grŵp fwyaf. Oherwydd o’r darn gan Rosemary Edwards dyma fynd â ni at waith gan David Cushway o Gaerdydd, Eicon/Icon. Rhaid disgrifo’r darn hwn hefyd. Roedd wedi’i osod yn erbyn y wal. Wrth droed y wal roedd ‘na lwmpyn o glai tywyll gydag ôl llaw ynddo. I weld gweddill y darn yr oedd yn rhaid codi’r llygaid i fyny a gweld croes fechan ddu wedi’i llunio o glai tywyll yn crogi ar y wal. Holodd beth oedd ein barn o’r darn – erbyn hynny roedd y ddysgwraig o Gwm Rhymni a’i ffrind wedi ymadael, felly dyma fi’n mentro eto gan awgrymu ei fod yn ddarn crefyddol ar sail y groes. A oedd yn feirniadol o grefydd? A oedd yn bositif tuag at grefydd? Roedd ‘na lawer ffordd o’i ddehongli. Roedd y clai yn atgoffa rhywun o’r llwch y crëwyd y ddynoliaeth ohono gan Dduw yn ôl llyfr Genesis, ac roedd y groes wedi’i gwneud o’r un defnydd.

Fe aeth y tywysydd â ni o gwmpas nifer fawr o weithiau yn yr arddangosfa. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd sut yr oedd hi wrth ddehongli yn rhoi cyfle i ni fynegi’n hymateb ni i’r darnau. Llwyddodd i wneud inni feddwl a llwyddodd i’n gwneud ni i weld pethau na fusen i wedi sylwi arnyn nhw mewn ymweliad arwynebol. Roedd yn syniad gwych i gael tywysydd o’r fath. Rhaid imi jyst enwi rhyw dau beth arall da iawn. Yn gyntaf Gwnaeth mam hwn i mi gan Alison Harries o Bontypridd. Ar yr olwg gyntaf yr oedd yn edrych fel ffrog briodas neu ŵn ar gyfer dawns, ond wrth edrych yn ofalus arni fe welwch ei bod mewn gwirionedd yn ’straight jacket’! O weld hynny mae’r teitl yn golygu popeth. Roeddwn i’n hoff hefyd o waith Anne Harrington-Rees o Niwbwrch. Roedd hi wedi nyddu gwrthrychau bychain cywrain wedi’u hysbrydoli gan ffurfiau natur gan ddilyn y traddodiad o fenywod yn nyddu moresg yn ardal Niwbwrch.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos (nos Iau?) fe glywais eitem ar Docyn wythnos ar Radio Cymru gyda Beti George yn mynd o gwmpas yr arddangosfa yng nghwmni Aneurin Jones. Roedd y ddau yn feirniadol iawn o’r cyfan. Doedd dim byd newydd yno meddent hwy ac yr oeddent yn tristau nad oedd cyfle i weld gwaith y gorffennol. Dwi’n medru gweld pam y buasai’n syniad da i geisio cyflwyno gwaith yn cynrychioli etifeddiaeth gelfyddydol yr ardal, ond doeddwn i ddim yn cytuno o gwbwl nad oedd dim byd diddorol a ffres a chyffrous yn yr arddangosfa oedd yno. Dwi’n siŵr fod ‘na waith gwell yn cael ei gynhyrchu gan grefftwyr ac arlunwyr yng Nghymru. Yn yr un modd mae ‘na well barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth yn cael eu creu a’u perfformio yng Nghymru, ond o fewn fframwaith cystadleuaeth dyma’r gorau sydd gennym.

Mae newyddiaduraeth BBC Cymru braidd yn rhyfedd ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, fel y dwi’n gweld pethau, mae’n ceisio’i orau i weld bai a beirniadu sefydliadau gweinion, di-rym nad ydynt yn gwario ond cyfran fechan iawn o arian cyhoeddus. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn cael rhwydd hynt i wneud yr hyn a fynno. Cafwyd enghraifft yn ddiweddar iawn o weinidog o fewn i’r llywodraeth honno yn bygwth tynnu arian hysbysebu oddi ar bapurau newydd oedd wedi bod yn ei feirniadu ef a’r llywodraeth. Byddai colli’r arian hysbysebu hwnnw yn gwneud parhad y papurau yn fwy ansicr fyth. I mi roedd yn ddigon o stori i ymddangos ar newyddion ‘cenedlaethol’ y BBC gan ddangos ymateb paranoid i feirniadaeth a hynny’n arwain at fygwth tawelu’r lleisiau croes. Ond prin sylwi ar y stori wnaethon ni oherwydd blaenoriaethu BBC Cymru.

Fel y gwelwch fe wnes i fwynhau’r arddangosfa yn fawr iawn ac fe allwn ysgrifennu llawer yn rhagor ond rhaid tewi.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>