Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (3)

Corlan fwyd yr eisteddfod – uffern ar y ddaear

Y gorlan fwyd, aka Uffern ar y ddaearMaen nhw’n gadael y troseddwyr pennaf mas o’r carchar y dyddiau hyn ar ôl iddynt wneud ond ychydig ‘amser’. Felly roeddwn i’n credu fy mod i’n haeddu fy rhyddhau o’r Babell Lên wedi dwy awr yno. Roeddwn i a DJP hefyd am gael sgwrs am y peth hyn a’r peth arall gyda CaGw. Fe wnaethon ni hynny dros baned yn y gorlan fwyd dwrs nesaf i’r Babell Lên. Roedd hi’n hyfryd cael cwmni CaGw, ond roedd rhaid gwneud hynny yn y peth nesaf i uffern ar y ddaear, sef y gorlan fwyd. Dyna f’agoffa yn syth o’r rheswm nad wyf yn cael pleser yn yr eisteddfod: chwilio a chwilio, disgwyl a disgwyl, a hynny er mwyn eistedd at seddi plastig whin-gul, yn yfed dŵr drud (ar ôl ciwio’n hir amdano) a hynny mas o gwpanau plastig wrth ford fudr!

Y toiledauOnd dwi’n siŵr y bydd rhai’n dweud yn eiddigeddus y dylwn fod yn ddiolchgar achos o leia fe ges i sedd! Ac wedi gofyn i un o’r gweithwyr hynaws oedd yn gweithio yno fe wnaeth lanhau’r ford yn ddirwgnach. Bues i fan’na am bron i ddwy awr a hanner. Wedi sgwrs o ryw hanner awr gyda CaGw roedd hi’n rhaid iddi fynd gan ei bod yn mynd i fyny i Lundain am ychydig ddiwrnodau. Ond o fewn dim dyma IBJ a TLlJ yn dod heibio. Cyfle i longyfarch IBJ ar ennill ar yr englyn digri. Dwi’n edrych ymlaen i weld y Cyhoeddiadau ddydd Gwener er mwyn darllen yr englyn a’r feirniadaeth.

Wedyn fe aeth DJP ar un o’i deithiau llenyddol ac ymhen dim dyma NW a CW yn dod heibio. Fe gefais ychydig o hanes y maes carafannau gan CW. Cyn bo hir roedden nhw’n mynd ac yn y pellter gwelais GP. Roedd e’n edrych yn dda iawn ar ôlei lawdriniaeth ddiweddar. Roedd e gyda’i ferch a DI. Roedd hi’n braf cael sgwrs am bethau effemerol bywyd cyn i RO ddod heibio a thrafod llyfr diweddar ar hanes llywodraeth leol Ynys Môn!

Cinio 2006-08-09

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>