Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (2)
Dafydd ap Gwilym digidol
Yn dilyn y sesiwn drafod ar Con passionate fe wnes i aros yn Babell Lên yng nghwmni gwaraidd DJP a CaGw ar gyfer y sesiwn ddilynol, sef y Ddarlith lenyddol. Yr Athro Dafydd Johnston oedd yn ei thraddodi eleni a’i destun oedd paratoi’r golygiad electronig o waith Dafydd ap Gwilym.
Dwi’n rhyfeddu at yr Athro Dafydd Johnston yn gyson oherwydd ei allu i drin a thrafod pynciau astrus mewn modd sy’n hygyrch. Roedd y ddarlith hon yn esiampl o sut i wneud hynny. Wrth gyflwyno gair dieithr byddai’n esbonio beth yr oedd yn ei feddwl, ond heb lafurio’r peth yn ormodol, ac yna’n defnyddio’r gair heb esboniad wedyn. Mae ei waith yn agor ac yn dehongli llenyddiaeth y cyfnod yn doreithiog. Yr oedd cyfrol o’i waith ar restr fer Llyfr y flwyddyn eleni, cyfrol wych Llên yr uchelwyr: hanes beirniadol llenyddiaeth Gymraeg, 1300-1525. Mewn un ffordd mae’n drueni mawr na wnaeth y gyfrol ennill y wobr, gan ei bod hi’n bosib y gallai hynny fod wedi annog rhai pobol i ddarllen cyfrol na fuasent wedi’i hagor o dan unrhyw amgylchiad arall. Mae ef hefyd wedi bod yn flaengar yn rhannu’r wybodaeth sydd ganddo gyda chynulleidfa ehangach, trwy’r Saesneg yn bennaf. Cyhoeddodd ddwy gyfrol thematig o gerddi canol oesol mewn fformat dwyieithog – Canu maswedd yr oesoedd canol = Medieval Welsh erotic poetry (1991) a Galar y beirdd = Poets’ grief (1993). Fel y disgwyl yr oedd y ddarlith lenyddol yn un ddiddorol iawn wrth iddo ddangos y gwaith sydd wedi’i wneud yn barod ar y golygiad electornig, ond yn anffodus bydd yn rhaid aros tan y flwyddyn nesaf, Ebrill 2007, i gael golwg arno. Yr oedd hefyd yn ddiddorol i’w glywed yn ymdrin â rhai darganfyddiadau ‘newydd’ yn sgil defnyddio technegau golygu a chyflwyno gwahanol i’r hyn a wnaeth Thomas Parry yn Gwaith Dafydd ap Gwilym. Bydd y golygiad newydd electronig hwn yn gam mawr ymlaen, ac mae’r ffaith ei fod yn cael ei wneud yn y lle cyntaf yn gyfle gwych i ddangos ac arddangos campweithiau Dafydd i ni ein hunain ac i’r byd.
Fel rhywun a wnaeth radd yn y Gymraeg (bum mlynedd ar hugain yn ôl!) ond heb astudio gwaith Dafydd ap Gwilym na beirdd yr uchelwyr yn benodol, mae darllen ei waith yn medru bod yn hawdd ar brydiau, ond bryd arall mae’n medru bod yn astrus ac yn anodd iawn. Bu ymgais i ddiweddaru ei waith o’r blaen, fel yn 50 o gywyddau Dafydd ap Gwilym a olygwyd gan Alan Llwyd (1980), ac mae cyfieithiadau Saesneg Gwyn Thomas, Dafydd ap Gwilym: his poems, yn Bydd y fersiwn newydd yma yn cynnig yr holl offer a fydd eu hagnen i wneud y gwaith hwnnw dipyn yn hawdd ac ar yr un pryd yn cynnig yr holl offer fydd eu hangen hefyd ar ysgolheigion i astudio’i waith. I’r cyffredin bydd ‘na aralleiriad mewn Cymraeg modern o’i waith a chyfieithiadau i Saesneg; bydd ffeiliau sain o’r cerddi yn cael eu darllen, a bydd nodiadau ar gyfeiriadau dieithr, a hefyd luniau o rai o’r pethau y cyfeirir atynt yn y gweithiau. Yn ogystal bydd darluniau o’r llawysgrifau gwreiddiol a’r holl amrywiadau wedi’i cofnodi, ac wrth gwrs bydd unrhyw wybodaeth newydd yn medru cael ei hychwanegu at y golygiad electronig yn gymharol ddiboen a hawdd.
Dwi’n edrych ymlaen i fis Ebrill 2007 yn fawr iawn.
Rhagor o luniau o Dafydd Johnston yn traddodi’r ddarlith yn y Babell Lên.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Diolch yn fawr