Con passionate
Codi’n gynnar heddiw oherwydd fy mod wedi addo cadeirio sesiwn yn y Babell Lên ar y gyfres deledu Con passionate wedi’i threfnu ar y cyd rhwng y pwyllgor llên a Cyfrwng, cylchgrawn y cyfryngau yng Nghymru. Fe wnes i addo wythnosau yn ôl, ac ar y pryd roedd popeth yn ymddangos yn waith di-ofid. Ond wrth i’r amser ddod yn nes mae’r ofnau a’r gofidiau yn codi. Roedd cael fy ngham-enwi yn rhaglen yr eisteddfod hefyd ag effaith negyddol! Doeddwn i ddim wedi cael cyfle i siarad gydag unrhyw un oedd yn mynd i fod ar y panel: Siwan Jones (awdur y gyfres), Rhys Powys (un o’r cyfarwyddwyr) a Paul Jones (y cynhyrchydd). Ond roedd y tri arall wedi gweithio’n galed ar y sesiwn gan wneud gwaith y cadeirydd yn ddidrafferth iawn.
Roedd y sesiwn yn cychwyn am rhyw 10.00am, y sesiwn gyntaf yn y Babell Lên. Ac roeddwn i wedi addo cyrraedd y Babell erbyn 9.30am er mwyn siarad gyda’r cyfranwyr. Roedd Siwan Jones yno’n barod ac o fewn dim dyma Rhys a Paul yn cyrraedd. Roedd popeth ganddyn nhw mewn llaw. Am ennyd roedd hi’n edrych fel petai neb llawer yn mynd i ddod i’r sesiwn, ond yn sydyn rhyw ychydig funudau cyn 10.00am dyma’r lle yn rhyw ‘lenwi’. Mae’n rhaid bod rhyw ddeugain, os nad mwy yno, ac fe gafodd y gynulleidfa wledd. Mae’r gyfres Con passionate wedi cael dau dymor ac mae popeth amdani wedi gwella a hynny o safle gwych ar y cychwyn. Wrth wrando ar y tri yn trafod y gyfres ac yn dangos clipiau roedd hi’n bleser gweld ymateb y gynulleidfa. Roeddwn i’n eistedd ar y llwyfan gyda’r panelwyr ac felly’n methu gweld y clipiau eu hunain, dim ond clywed y sain, a’r hyn wnaeth fy nharo i oedd pa mor bwysig yr oedd geiriau hefyd yn y ddrama weledol hon.
Aeth popeth yn iawn, doedd dim rhaid fy mod i wedi poeni wedi’r cwbwl.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael