Eisteddfod – Dydd Mawrth 8 Awst 2006

Diwrnod i’r brenin

Bwyd môr ar werth ym Marchnad AbertaweDiwrnod tawel ar ben fy hunan heddiw, a dwi ddim yn bwriadu gwneud rhyw lawer gan fod pawb arall yn mynd i’r eisteddfod am y dydd. Fe es i mewn i ganol y ddinas wrth iddyn nhw adael. Trafaeliais ar fws rhif 20. Mae’r sustem drafnidiaeth yn wahanol iawn i’r hyn sydd ar gael yn Aberystwyth. Yn ystod y dydd mae bws yn mynd bob deng munud o’r ‘pentref’ i ganol y ddinas. Dwi wedi bod yn Abertawe yn ddigon aml i fod yn gyfarwydd â’r hyn sydd i’w weld yma felly siopa oedd y prif nod. A’r lle i fynd i siopa yn Abertawe yw’r Farchnad, marchnad dan do fwyaf Cymru. Fe gefais amser hyfryd yn prynu nwyddau o gwmpas y lle – cocos fan hyn, bara fan draw, cig, ffrwythau. Mae popeth bron ar gael yn y farchnad. Popeth ond cnau pîn. Yr hyn oedd o ddiddordeb i fi oedd y plac ar y wal yn nodi’r ffaith i’r tir ar gyfer y farchnad gael ei roi i’r gorfforaeth gan y Parchg Calvert Richard Jones, un o arloeswyr ffotograffiaeth Cymru yn yr 1840au. Roedd wedi rhoi’r tir yn 1826. Doedd dim angen poeni amdano roedd digon o arian ganddo!

Wedyn fe es i mewn i’r ddinas ryw ychydig, ond diflas yw llefydd eraill ar ôl lliw a chymeriad y farchnad. Yr unig brofiad diddorol a gefais oedd yn siop Marks & Spencers pan gefais gyfle i siarad gyda Cymraes Gymraeg oedd yn llawn brwdfrydedd am yr eisteddfod yn y ddinas. Roedd hi’n gweithio ar y til ac yn llysgennad rhyfeddol dros Gymreictod Abertawe. Fel llawer man yng Nghymru mae’r Gymraeg yma, ond mae wedi’i chuddio, ei gwthio o’r golwg, hyd yn oed wedi’i gosod o’r golwg gan y Cymry eu hunain. Mae’r un peth wedi dechrau digwydd yng Ngheredigion, neu yn Aberystwyth o leia. Pan ddes i i Aberystwyth am y tro cyntaf ddiwedd y 1970au roedd y Gymraeg i’w chlywed ym mhobman ac yn Gymraeg roedden ni’n dechrau pob sgwrs mewn siop, ond bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach a myfyrwyr o Loegr neu dramor yn gweithio ym mhob siop bron mae nifer wedi dod i’r arfer o gychwyn sgyrsiau mewn Saesneg. Fan hyn o leia mae’r eisteddfod yn rhoi cyfle iddi ddod i’r wyneb unwaith eto, dwi’n ofni na fuasai hynny’n llawer o help yn Aberystwyth. Y trueni mawr yw nad yw bosib i’r ysbryd hwn lenwi’r lle rownd y flwyddyn. Diolch am yr un cyfarfyddiad hwnnw ym Marks & Spencers, mae rhywbeth fel ‘na yn codi calon dyn. Dim ond un broblem. Doedd dim cnau pîn yn Marks & Spencers chwaith.

Pwdin 2006-08-08Roeddwn ‘nôl yn y fflat erbyn amser cinio ond heb gnau pîn; bydd rhaid i swper heno gael ei fwyta hebddynt, ond mae’n rhaid imi eu cael ar gyfer nos yfory. Wedi bwyta dyma gymryd siesta gan ei bod yn dal i fod yn weddol dwym, ond roedd yn rhaid codi’n eithaf cynnar er mwyn gwneud swper heno. Dwi wedi bod yn uchelgeisiol heddiw. Fel prif gwrs dwi’n mynd i goginio peli cig (heb gnau pîn!) gyda saws tomato; rysáit o Lebanon sy’n cael ei adnabod yno fel Daoud Basha ac roeddwn am baratoi salad cucmer a iogwrt i fynd gyda hynny. I ddilyn roeddwn am wneud Roz bi halib wal mishmish, neu bwdin reis gyda compôte bricyll. Roedd yn rhaid gwneud y pwdin a’r compôte am ei fod gael ei weini yn oer o’r rhewgell. Roeddwn am hefyd ddechrau paratoi pryd nos yfory, sef pysgod gyda reis mewn saws winwns, sef ffrïo’r winwns am amser hir nes eu bod yn frown frown a wedyn eu gosod yn y prosesydd bwyd. Roedd hi’n bwysig gwneud hynny heno am fy mod yn mynd i fynd i’r eisteddfod fy hun nos yfory ac felly ni fydd gen i cymaint o amser i baratoi swper os yw hynny am ddigwydd mewn amser call ar gyfer fy nghyd-letywyr.

Roedd popeth bron â bod yn barod pan ddaeth pawb adref o’r eisteddfod. Pawb yn canmol y Doud Basha (er gwaetha’r diffyg cnau pîn) ac fe wnaeth y pwdin argraff fawr. Yr hyn oedd yn arbennig am y pwdin oedd y cyferbyniad rhwng y pwdin reis ei hun yn felys (iawn) ac yn orenaidd ei flas â’r bricyll yn eu tregl sur. Roedd i’n hyfryd cael y fath ymateb positif. Wedyn gwylio’r eisteddfod ar y teledu. Yn dilyn yr eisteddfod roedd Y sioe gelf a dyna pryd wnes i ymadael am y gwely, wedi blino’n lân. Bydd yn rhaid codi’n gynharach bore ‘fory er mwyn cyrraedd maes yr eisteddfod erbyn 9.30am a thrafod trefn pethau yn y Babell Lên.

DML yn darllen 'Dygwyl eneidiau'Mae DML wedi cychwyn ar farathon gan ei fod wedi addo adolygu enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ar gyfer y cylchgrawn Golwg erbyn yr wythnos nesaf. Gwobr am nofel dros 50,000 o eiriau yw’r Gwobr Goffa Daniel Owen, ond eleni fe’i henillwyd gan nofel o ryw 100,000 o eiriau a thros 500 o dudalennau sef Dygwyl eneidiau gan Gwen Pritchard Jones. Gyda gwaith yn yr Eisteddfod bob dydd dim ond y nosau sy ganddo i’w darllen. Os yw hi’n bosib gwneud o fewn yr amser fe wnaiff DML hynny, ond ryw fodd dwi’n credu ei bod hi’n amhosib cyrraedd targed o’r fath hyd yn oed trwy ddefnyddio dulliau mwyaf soffistigedig darllen cyflym! Efallai bod Golwg hefyd ychydig yn optimistaidd i gael adolygiad mewn cyn lleied o amser; dyw e ddim yn rhoi llawer o amser i adolygydd feddwl dros ei adolygiad, ac weithiau mae argraffiadau cyntaf yn medru bod yn dwyllodrus, yn dwyllodrus iawn.

Rhagor o luniau o fy nydd Mawrth i yn Eisteddfod 2006.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>