Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (7)

Ble mae bedd Harri Webb?

Cofeb Vernon Watkins, Eglwys PennardFel y dywedais i roedd taflen gennym a oedd yn addo bod cofeb i Vernon Watkins yn yr eglwys a bedd Harri Webb yn y fynwent. Fe ddaethon ni o hyd i gofeb Vernon Watkins yn gymharol ddidrafferth, ond er chwilio a chwilio wnaethon ni ddim llwyddo dod o hyd i fedd Harri Webb. Fe wnaethon ni geisio chwilio yn reit sustematig, ond methu wnaethon ni, er mawr siom i’r ddau ohonom. Wrth gwrs pan fydda i’n dweud wrth rywun fod hyn wedi digwydd byddan nhw’n siŵr o ddweud, “Beth? Welsoch chi ddim bedd Harri Webb? Mae e reit ar ganol y fynwent yn y lle mwyaf amlwg!” Dwi’n barod i gael fy nghywilyddio’n gyhoeddus ar y mater hwn.

Abertawe o'r MwmbwlsO Bennard dyma fynd ar yr heol trwy Llandeilo Ferwallt a heibio i Fae Caswel tuag at y Mwbwls. Mae’n flynyddoedd ers imi fod yno ond doedd dim llawer wedi newid. Mae’r olygfa ar draws y bae i Abertawe yr holl ffordd hyd at Fargam yn un o’r golygfeydd hynny yng Nghymru y dylai pawb eu gweld cyn dechrau teithio’r byd, fel yr olygfa o Bwlch y Clawdd dros Gwm Rhondda. Mae’n drist meddwl fod rhai pobol wedi gweld Wal Fawr China, Temlau Angor Wat, Uluru, Penddelwau Ynys y Pasg, Machu Pichu, &c., ond heb fod lan y Bwlch nag yn y Mwmbwls chwaith.

Roedd yr amser wedi hedfan a’r cwmni wedi bod yn ddifyr iawn. Ond roedd yn rhaid troi yn ôl am y llety er mwyn dechrau coginio swper. Felly ar ôl galw yn siop Coop yng Nghilâ dyma fynd yn ôl i ‘bentref’ Hendrefoelan. Dim ond cawl a phwdin heno gan fod pawb yn mynd mas yn weddol gynnar i ddigwyddiad ym Maes C, sef Beirdd yn y doc gydag Emyr Lewis yn gweithredu fel barnwr.

Wrth gyrraedd adref dyma glywed fod y goron wedi’i hennill gan Eigra Lewis Roberts. Roedd hyn yn syndod i mi, ond i’r rhai sy’n gwybod y pethau ‘ma roedd hi wedi cystadlu ar y gadair a’r goron o’r blaen. Dwi’n rhyfeddu at ei thalent – mae’n feistr ar gymaint o amrywiol ffurfiau llenyddol a hynny’n llwyddiannus. “Don’t it make ya sick!” fel buasai yr enwog Glenda Slagg yn ei ddweud.

Heno fe wnes i gadw at fy adduned a pharatoi saig arall allan o Arabesque gan Claudia Roden. Rysait o Lebanon yw Makhlouta, sef Cawl corbys cochion a reis. Reis ar gyfer pwdin a ddefnyddir yn y rysait a defnyddir winwns wedi’u ffrïo nes eu bod yn frown iawn a chwmin i’w addurno cyn ei weini. Gyda bara pitta wedi’i dostio ac olew’r olewydd wedi’i daenellu drosto roedd y cyfan yn bryd blasus iawn.

Wedi i’r gweddill fynd ar ei ffordd dyma olchi’r llestri ac yna gorffwys. Es i gysgu, ond pan ddethon nhw’n ôl o Faes C fe wnaethon nhw fy nihuno i ddweud cystal noson oedd hi ac i ganmol y beirdd oedd wedi bod yn rhan o’r peth, ac i ganmol y ‘barnwr’ am ei ffraethineb. Nos da.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>