Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (6)

Y gawell unwaith eto

Fel y dywedais y tu fas i’r Lle celf roedd ‘na gawell fawr a thu mewn i’r gawell roedd Catrin Dafydd a Rowley Clay yn perfformio. Yn anffodus fe gollais i berfformiad olaf y dydd, ond roedd Catrin yn dal i fod y tu fewn a Rowley y tu fas. Roedd hi’n [...]

Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (5)

Y Lle Celf

Dwi ddim rhoi amser go iawn i’r Lle celf ar faes yr eisteddfod ers blynyddoedd, felly gyda rhyw dair awr ar ôl ar y maes fe wnes i ddweud y buaswn yn treulio’r hyn oedd ei angen yno. Wrth gerdded i mewn i’r arddangosfa fe sylwais ar hysbyseb am deithiau tywys deongliadol o [...]

Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (4)

Dafydd ap Gwilym a dysgwyr

Roedd dwy awr a hanner yn uffern eisteddfodol y gorlan fwyd yn ddigon i mi. Ac fe aeth RO a minnau tuag at Y lle celf; ond ar ein ffordd dyma alw heibio i stondin Prifysgol Cymru, Abertawe i gael golwg fanylach ar wefan Dafydd ap Gwilym. Roedd Dafydd Johnston wedi [...]

Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (3)

Corlan fwyd yr eisteddfod – uffern ar y ddaear

Maen nhw’n gadael y troseddwyr pennaf mas o’r carchar y dyddiau hyn ar ôl iddynt wneud ond ychydig ‘amser’. Felly roeddwn i’n credu fy mod i’n haeddu fy rhyddhau o’r Babell Lên wedi dwy awr yno. Roeddwn i a DJP hefyd am gael sgwrs am y peth [...]

Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (2)

Dafydd ap Gwilym digidol

Yn dilyn y sesiwn drafod ar Con passionate fe wnes i aros yn Babell Lên yng nghwmni gwaraidd DJP a CaGw ar gyfer y sesiwn ddilynol, sef y Ddarlith lenyddol. Yr Athro Dafydd Johnston oedd yn ei thraddodi eleni a’i destun oedd paratoi’r golygiad electronig o waith Dafydd ap Gwilym.

Dwi’n rhyfeddu at [...]

Eisteddfod – Dydd Mercher 9 Awst 2006 (1)

Con passionate

Codi’n gynnar heddiw oherwydd fy mod wedi addo cadeirio sesiwn yn y Babell Lên ar y gyfres deledu Con passionate wedi’i threfnu ar y cyd rhwng y pwyllgor llên a Cyfrwng, cylchgrawn y cyfryngau yng Nghymru. Fe wnes i addo wythnosau yn ôl, ac ar y pryd roedd popeth yn ymddangos yn waith di-ofid. [...]

Eisteddfod – Dydd Mawrth 8 Awst 2006

Diwrnod i’r brenin

Diwrnod tawel ar ben fy hunan heddiw, a dwi ddim yn bwriadu gwneud rhyw lawer gan fod pawb arall yn mynd i’r eisteddfod am y dydd. Fe es i mewn i ganol y ddinas wrth iddyn nhw adael. Trafaeliais ar fws rhif 20. Mae’r sustem drafnidiaeth yn wahanol iawn i’r hyn sydd ar [...]

Anrheg o Awstria

Mae caredigrwydd pobol yn fy rhyfeddu bob amser. Dyna pam dwi mor ddiolchgar am anrhegion fel yr anrheg hon o Awstria. Mae meddwl am ferch ifanc fel GRB yn mynd i’r drafferth o gael ei llun wedi’i dynnu o flaen i Siop Spar Gourmet yn ninas Fiena er mwyn bodloni fy obsesiynau i yn cyffwrdd [...]

Adre’n saff

O’r diwedd dwi wedi cyrraedd adref ac yn barod i fynd i’r gwaith yfory. Cyrhaeddais yn ôl brynhawn ddoe wedi’r gwyliau dwy-ganolfan yn Lerpwl a Bangor. Cafwyd amser da iawn ac rydw i am ddweud yr hanes hwnnw rywbryd ar Flog Dogfael. Ond y peth cyntaf fydda i yn ei wneud yw gorffen hanes yr [...]

GLYN 2 WIN!

Dwi wedi pleidleisio dros Glyn Wise!

Dwi’n ofni fy mod i wedi syrthio i’r rhwyd o roi fy arian prin i yng nghyfrifon banc gorlawn y cwmni sy’n cynhyrchu Big Brother trwy ffonio i bleidleisio dros Glyn Wise. Mae’n wirioneddol ddrwg gen i ddweud hynny mewn ffordd o siarad, ond nawr dwi wedi’i gael y peth [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (7)

Ble mae bedd Harri Webb?

Fel y dywedais i roedd taflen gennym a oedd yn addo bod cofeb i Vernon Watkins yn yr eglwys a bedd Harri Webb yn y fynwent. Fe ddaethon ni o hyd i gofeb Vernon Watkins yn gymharol ddidrafferth, ond er chwilio a chwilio wnaethon ni ddim llwyddo dod o hyd i [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (6)

‘Golden Gower’

Wedi gadael Cefn Bryn ein bwriad nesaf oedd mynd am Eglwys Pennard i weld cofeb Vernon Watkins a bedd Harri Webb yn ôl addewid y taflenni. Roedd Pennard yn llawer mwy agored na’r mannau eraill inni ymweld â hwy, doedd dim rhyw coed o gwmpas yr eglwys o gwbwl. Cefais fy synnu wrth deithio [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (5)

Gweld Gŵyr

Aethon ni trwy bentref Reynaldston i ben Cefn Bryn. Nid ar Gefn Bryn mae’r man uchaf ym Mro Gŵyr, ond mae’n rhaid ei fod yn cynnig un o’r golygfeydd mwyaf godidog yng Nghymru. I’r gogledd gallwch weld draw i Lanelli, Pen-bre a Phorth Tywyn a thraethau Cefn Padrig a Chefn Sidan. I’r dwyrain mae [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (4)

Edrych dros y wal

Wedi ein hymweliad â chofeb Ilston roedd RO a minnau yn barod am ein cinio. Yn gyfleus ddigon roedd y Gower Inn gerllaw yn cynnig prydau amser cinio a dyna lle wnaethon ni fwyta. Rhoes gyfle inni i drafod beth roedden ni am ei wneud nesaf. Penderfynwyd mynd i ganol Gŵyr i [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (3)

Ailfedyddwyr ac Annibynwyr

Mae Llanilltud Gŵyr â lle arbennig yn hanes y Bedyddwyr yng Nghymru. Adeg y weriniaeth o dan Oliver Cromwell fe gynullwyd yr eglwys fedyddiedig gyntaf ar dir Cymru yn y plwyf hwn. Mae’n ddigon posib fod y Bedyddwyr Cymraeg eu hiaith cyntaf wedi ffurfio eglwys mewn darn o Loegr lle’r oedd y Gymraeg [...]

Mwy o deithio

Dwi wedi bod ar wyliau o’r gwaith heddiw er mwyn trefnu teithio yr wythnos nesaf. I ddweud y gwir mae’r antur yn dechrau ddydd Sadwrn pan dwi mynd am wibdaith i ogledd Powys gyda chyd-weithwyr – i ardal y Drenewydd, y Trallwng, Meifod a Threfaldwyn. Yna ddydd Llun mae’r antur mawr yn dechrau. Dwi’n mynd [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (2)

Llanilltud Gŵyr

Mae Llanilltud, neu Ilston, yn bentref nodweddiadol o Fro Gŵyr: prydferth, tawel, ac yn llawn pobol ddieithr sy’n medru fforddio talu’r prisiau uchel am y tai. Dwi’n siŵr fod nifer fawr yn cael eu denu yma gan y syniad o gymuned, a chael fod yr ymdeimlad o gymuned yn gwanhau a diflannu wrth i [...]

Rysáit ar gyfer pilaff reis

Mae’n rhyfedd cymaint o ddiddordeb sydd gan rai yn y bwyd wnaethon ni ei fwyta yn yr eisteddfod. Mae rhywun wedi gofyn am y rysáit ar gyfer y pilaff reis. Felly dyma beth sydd gan Claudia Roden i’w ddweud yn Arabesque. Mae hi’n gosod y rysait yn adran Twrci ei llyfr coginio.

PILAV
Pilaff reis

Dyma’r reis plaen [...]

Eisteddfod – Dydd Llun 7 Awst 2006 (1)

Plentyn precosiws a merlod gwyllt

Dechrau’r wythnos eisteddfodol go iawn, ac mae ‘na rywbeth sy’n rhyddhaol iawn am beidio â ‘gorfod’ mynd i’r eisteddfod ei hun. Dwi yn yr eisteddfod, mewn ffordd o siarad, ond heb yr holl drafferth o fynd i’r maes parcio, cerdded trwy’r cerrig a’r llwch, ffeindio lle i gael bwyd yn y [...]

Eisteddfod – Dydd Sul 6 Awst 2006 (7)

Diolch am dy gyngor, Claudia

Wedi inni fynd heibio Pont-rhyd-y-fen oedd yn datgan ar yr arwydd ei fod yn fan geni i Richard Burton, Ivor Novello, a Rebecca Evans, dyma waedd gan rywun “a Chris Needs!” Dwi’n credu fod hynny’n wir ac fe fydd hi’n ddiddorol sylwi pa mor hir y bydd hyn cyn i’r pentref [...]