Gwartheg duon Cymreig

Mae’r stori am y strip-tîs a ddigwyddodd mewn digwyddiad wedi’i drefnyd gan Gymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig wedi ennyn fy niddordeb i mewn amaethyddiaeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Anodd gen i gredu fod y peth wedi digwydd yn y lle cyntaf ac mae gwefan y BBC wedi llwyddo i sicrhau fod y disgrifiadau gyda’r mwyaf voyeuristaidd.

Witnesses said the woman was hosed down during the performance with water normally used to wash and feed the cattle.

One witness, who did not want to be named, said security guards rushed to the scene late on Tuesday, but had difficulty grabbing the woman because the water had made her skin slippery.

Another said the woman’s thong, discarded during the act, was returned to her on the end of a pitch fork used to muck out the cattle lines.

Tywysog Charles a Duges Cernyw yn edrych ar darw du Cymreig

Yn y llun gwelir Y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn dod wyneb yn wyneb â tharw du Cymreig ar ymweliad â Chymru yn 2005. Diolch byth nad oeddent hwy yn bresennol yn y ‘digwyddiad’ yn ystod y sioe oherwydd ef yw noddwr y Gymdeithas!

Mae’n synod i fi nad oedd y ’sioe’ wedi’i noddi gan Hybu Cig Cymru fel rhan o’r gwaith o hybu cig coch oherwydd maen nhw’n meddwl am bob math o syniadau er mwyn gwneud eu gwaith pwysig. Ar wefan Hybu Cig Cymru ar hyn o bryd maen nhw’n hysbysebu cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth newydd Pris y farchnad sy’n anfon y prisiau marchnad oen/eidion diweddaraf fel negeseuon testun unwaith yr wythnos yn ddi-dâl at danysgrifwyr. Os yw’n llwyddiannus bydd yn cael ei sefydlu fel gwasanaeth talu, ond am y chwe mis cyntaf fe allwch gofrestru am ddim.

Mae’n amlwg fod y byd cig yn llawer mwy diddorol nag y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Gwartheg duon Cymreig

  • Mae’r ‘cynllun peilot’ wedi bod yn rhedeg ers dwy flynedd nawr. Mae cryn dipyn ar y rhestr ond dwi ddim yn gwybod am pa mor llwyddiannus mae wedi bod – gyda’r nifer presennol o danysgrifwyr mae’r gost yn ddigon isel fel nad oes angen poeni amdano.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>