Cyfrol DJP wedi cyrraedd

Clawr 'dim ond deud'O’r diwedd mae llyfr DJP wedi cyrraedd o’r wasg ac rydw i wedi ei ddal yn fy llaw. Cyfrol o farddoniaeth yw Dim ond deud ar bob math o themâu, gan gynnwys ymwneud pobol â’i gilydd a cherddi a ysgogwyd gan lefydd arbennig. Ennillodd DJP y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr, Llandeilo yn 1996, ond dyma ei gyfrol gyntaf. Gwelir gwaith DJP yn gyson yn Barddas a Taliesin ond mae rhywbeth yn dda iawn i’w cael i gyd o fewn yr un cloriau o’r diwedd. Mae’n anodd dewis un gerdd i gynrychioli’r cyfan, ond dwi’n mynd i fentro i ddyfynu un englyn sy’n cyfuno dwy thema gyson, sef crefydd a llefydd.

Montserrat
Nid wyf yn mynd i ofyn a welodd
    y bugeiliad cyndyn
  fenyw hardd unwaith fan hyn
  na dechrau dallt eu dychryn.

(Yn ôl yr hanes ymddangosodd y Forwyn Fair i fiugeiliad mewn ogof ar fynydd Montserrat yn y flwyddyn 880 O.C.)

Mae’n gyfrol gwerth ei phrynu ac yn fargen am £7.95!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Cyfrol DJP wedi cyrraedd

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>