Rhifyn diweddaraf Barddas

Clawr BarddasMae rhifyn diweddaraf Barddas, rhifyn 288 (Mehefin/Gorffennaf 2006), wedi cyrraedd Plas-yn-Dogfael. Fel y gŵyr pawb bellach mae’r Plas yn aelwyd dau Farddas, ac felly fe all DML a minnau ddarllen yn annibynnol ar ein gilydd; er mae ‘na wastad bethau yr ydym am eu rhannu. Mae’r rhifyn hwn yn dathlu deng mlynedd ar hugain o fodolaeth Barddas : y gymdeithas gerdd dafod.. Roeddwn i yn Eisteddfod Aberteifi 1976 pan gafodd y Gymdeithas ei sefydlu, er dwi ddim yn cofio’r cyfarfod ei hun. Bryd hynny roeddwn yn grwt bochgoch, brwdfrydig a phrecosiws un mlwydd ar bymtheg ac yn dwli ar gerdd dafod. Erbyn hyn mae llawer wedi newid, ond mae fy ngallu cynganeddol cynddrwg ag erioed. Dwi’n diolch fy mod yn adnabod pobol erbyn hyn y mae cynganeddu yr un mor hawdd iddynt ag agor pot mêl.

Ond does dim sy’n fy rhyfeddu i’n fwy na chynnwys Barddas. Ar yr wyneb mae’n ymddangos yn iawn, ond heb fod yn rhy gyffrous, ond wrth i ddyn dwrio i mewn i’w gilfachau mae dod o hyd i emau a gwmon. Un o’r pethau mwyaf trawiadol am y rhifyn hwn yw golygyddol Alan Llwyd yn nodi’r pen blwydd. Fel arfer mae’n ddarn hynod o bersonol ac onest. Weithiau mae’n sôn am y gwaith y mae yntau wedi’i wneud gyda’r gymdeithas ac yn golygu’r cylchgrawn ac mae’n nodi:

Mae un peth yn sicr, fe fu’r deng mlynedd ar hugain hwn yn gyfnod caled rhyfeddol i mi o ran gwaith, ac ni all yr un enaid byw y tu allan i’r teulu fyth sylweddoli hynny…

Mae gen i deimladau cymysg ynglŷn â hyn oll. Trethais fy hun gorff ac enaid gyda’r holl lafur di-baid a di-ben-draw yma, ond erbyn hyn mae rhywun yn gofyn i beth, yn enwedig werth weld diwylliant Cymraeg yn breuo ac yn teneuo ar bob tu.

Buasai rhywun yn disgwyl iddo ddweud ei fod am roi’r gorau i’r cwbl ar ôl hynny. Ond yn hytrach yr hyn mae’n ei ddweud yw ei fod ar fin cyhoeddi llyfr arall sylweddol, cyfrol gyntaf mewn cyfres ar Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, Y gaer fechan olaf: hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1937-1950.

Mae pwynt Alan Llwyd ynglŷn â sefyllfa’r diwylliant Cymraeg yn rhywbeth sy’n taro tant gyda fi. Weithiau byddaf yn holi fy hun beth yw’r pwynt. Ond pan dwi’n edrych o’m cwmpas dwi’n sylweddoli nad oes gennyf ddewis, o fewn i’r diwylliant hwn dwi’n byw a chyda’r rhai sy’n rhannu’r un diwylliant (ynteu, diwylliannau) â mi yr wyf am siarad a chyfathrebu. Dwi’n gwybod fod pobol yn dal i roi bri ar y rhai sy’n gadael Cymru fach i fod yn bwysig yn Llundain a Lloegr, ond dyna’r ffordd i ddistryw mewn gwirionedd. Petai pawb yn meddwl fel ‘ny buasai dim ar ôl yn y diwedd. Diolch byth bod ‘na bobol eraill sy’n teimlo fel Alan Llwyd: er gwaethaf popeth, does dim lle arall inni ddianc iddo. Rhaid wynebu beth sydd i’w wneud fan hyn.

Mae gweddill y cylchgrawn yn llawn erthyglau diddorol. Yn ei golofn ‘Ar y ffin’ mae Grahame Davies yn dweud am rai o’i brofiadau wrth ymweld ag Israel a Phalesteina ac am berthynas David Lloyd George â Seionistiaeth. Yn anffodus mae’n darfodaeh amserol iawn. Difyr iawn yw sylwadau Arwyn Groe, y bardd o ogledd Powys, yn ateb cwestiynau ‘Fel hyn ‘rwy’n ei gweld hi’. Mae Dafydd Pritchard yn rhoi inni orolwg o ganu rhydd 1976-2000 yn y golofn wadd. Mae pawb yn cael lle yn yr erthygl ond yn fy marn i mae e braidd yn rhy barod i adael John Roderick Rees i ganmol Margaret Thatcher a Ronald Reagan. Dwi’n credu fod cerddi o’r fath yn anfaddeuol! Dwi wastad yn troi at golofn Bobi Jones a’i adolygaidau hwyr a’r tro hwn mae’n parhau i drafod canu Gruffudd ap Maredudd i deulu Penmynydd. Dwi heb ddarllen colofnau Iwan Llwyd, Ceri Wyn Jones na Donald Evans eto, nac ychwaith erthygl Llion Elis Jones ar T.H. Parry-Williams.

Sylwais ar un peth arall yn y rhifyn hwn hefyd. Ar dudalen 8 y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau i’r rhifyn nesaf y “Awst 20 fan bellaf bellaf”, ond ar dudalen 41 y dyddiad cau yw “Awst 15″!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Rhifyn diweddaraf Barddas

  • Diolch am y sylw Gareth. Wyt ti’n cofio beth oedd stori pasiant y plant. Pam roeddent ti’n gwisgo leiderhosen?

    Un peth arall dwi’n cofio am Eisteddfod Aberteifi 1976 yw mynd i wrando darlith lenyddiol R. S. Thomas ‘Abercuawg’ a meddwl fod y peth yn ddiflas. Doedd dim syniad gen i pwy oedd R. S. Thomas bryd hynny. Dwi’n sylweddoli erbyn hyn y dylen i fod wedi meddwl ei fod e’n wych, ond alla’ i ond dweud y gwir.

  • Yr unig cof sy’ da fi o eisteddfod aberteifi, ye cymryd rhan yn pasiant y plant wedi gwisgo lan fel dyn bach a oedd yn byw yn un or tai bach ‘na sy’n proffwdi’r tywydd.

    Yn gwisgo leiderhosen, a het gwyrdd, ac yn beni’r soie gan cysanu Wendy Williams.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>