Taith i Glasgow 2006-07-16 (5)

Swper 2006-07-16Ar ôl yr holl gerdded o gwmpas oriel ac amgueddfa Kelvingrove roeddwn i angen bwyd, ond y peth cyntaf yr oedd yn rhaid imi ei wneud oedd mynd yn ôl i’r gwesty am gawod. Roedd hi’n ddiwrnod twym arall ac roedd rhaid newid ar gyfer y nos. Yn agos i’r gwesty mewn un rhan o Sauchiehall Street roedd ‘na dri neu bedwar o fwytai Tseinïaidd yn cynnig buffet lle’r oedd hi’n bosib bwyta cymaint a fynnech chi am un pris. Fe es i i’r Chinese Buffet King a chael gwerth fy arian. Yn ogystal â’r hyn fuasai rhywun yn ei ddisgwyl mewn bwty o’r fath roedd ‘na hefyd rai pethau gwahanol gan gynnwys cregyn gleision. Roedd y ffowlyn lemwn yn flasus iawn a’r cawl bwyd môr. Yr unig broblem oedd bod ar eich pen eich hun. Bob nawr ac yn y man roeddwn i’n edrych o gwmpas i weld a oedd ‘na rywun y gallwn siarad gyda nhw. Yn anffodus roedd yr holl ferched a bechgyn y sylwais i arnyn nhw yn edyrch fel petai’n rhai ichi dalu i gael eu ‘cwmni’. Doedd gen i ddim cymaint o arian â hynny ac roedd y bwyd yn fwy o fargen. Felly ‘nôl â fi i’r gwesty gyda fy mola’n llawn, ond ar fy mhen fy hun. Roedd hi’n syniad da i gadw fy holl egni ar gyfer y dydd trannoeth pan fyddai’n rhaid i ddyn fod ar ddihun go iawn i ddilyn popeth oedd yn digwydd.

Gwesty Ibis Glasgow wedi'i adlewyrchu yn ffenestri pencadlys Heddlu Ystrad Clud

Rhagor o luniau o ail ddiwrnod y daith i Glasgow.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>