Cofio chwyldro

Cofeb PenyberthRoedd ‘na erthygl ddiddorol yn y Guardian ddoe gan yr hanesydd Tristram Hunt. (Diolch i RO am dynnu fy sylw ati.) Mae’n trafod y diffyg parch a roir i lefydd arwyddocaol yn hanes ‘radicalaidd’ Ynys Prydain a’r cofebau, neu’r diffyg cofebau, i’r digwyddiadau hynny. Caiff digwyddiadau mawr y sefydliad eu cofio mewn ysblander, ond caiff hanes radical ei anwybyddu neu ei anghofio’n llwyr. Mae e’n nodi pum lle neu ddigwyddiad sy’n haeddu cofebau neu eu cofio yn well na’r ffordd y gwneir hynny ar hyn o bryd:

  • St Peter’s Fields, Manchester – Scene of the 1819 ‘Peterloo massacre’;
  • The National Covenant, Greyfriars Kirk, Edinburgh – Site of one of the most important documents in British history;
  • Epsom Downs Racecourse, Surrey – Site of the martyrdom of Emily Wilding Davison in the cause of female suffrage;
  • Cardiff race riots, 1919 – Scene of the first credible declaration of black British identity;
  • Kennington Park, London – Scene of the Chartists’ monster rally in 1848.

Yn yr erthygl mae’n cyfieiro at ddigwyddiadau eraill y dylid eu cofio ac mae nifer ohonynt yn Gymreig. Mae’n agor ei erthygl drwy sôn am wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd, 1839 ac mae hefyd yn cyfeirio at ymgyrch Beca yn y de-orllewin yn y 1840au. Mae’r un peth yn wir am hanes Cymru hefyd. Mae’r Methodistiaid yn amlwg am eu cofebau, ond fe gaiff rhai pethau eu hanwybyddu. Dyma fy rhestr i o rai cofebau y buaswn i yn eu codi yng Nghymru, neu rai y dylid rhoi mwy o sylw neu fri iddyn nhw.

  • Heddychwyr a heddychiaeth Cymru, a hynny ar dir Epynt
  • Merched Beca o dan arweiniad Twm Carnabwth yn dinistro tollborth Efail-wen, 1839
  • Unofficial Reform Committee, Tonypandy, a gyhoeddodd The miners’ next step, 1912
  • Protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Pont Trefechan, Aberystwyth, 1963
  • Gwirfoddolwyr Cymreig a ymladdodd ar ochr y weriniaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen, 1936-38
  • Brwydr Tryweryn, 1965
  • Buddugoliaeth etholiadol Keir Hardie ym Merthyr Tudful, 1900
  • Llosgi’r ysgol fomio, 1936
  • Arloeswyr y Wladfa Gymreig, sef arloeswyr cenedlaetholdeb Cymru, 1865
  • Trychineb Senghennydd, 1913
  • Buddugoliaeth etholiadol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin, 1966
  • Streic y glowyr, 1984
  • Ymgyrch teulu Beasley, Llangennech

Dwi’n sŵr fod ‘na lawer mwy o ddigwyddiadau y gellid eu nodi a bod llawer na fyddan nhw’n cytuno gyda fy rhestr i, ond dyna gychwyn arni.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Cofio chwyldro

  • Rhestr fendigedig a llawer mwy cynhwysfawr na’r un wnes i ddechrau ar blog seren.
    Mae na gofeb – os dwi’n cofio’n iawn – i Michael D Jones (sylfaenydd y Wladfa) mewn mynwent ger Llanuwchllyn ond mi fysa cofeb mwy gwleidyddol yn addas hefyd.
    Mae’r gwirfoddolwyr Cymreig i Rhyfel Cartre Sbaen efo cofebau ar hyd a lled Cymru – gweler http://www.geocities.com/brigadistasdegales.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>