Mae’n rhyfedd pa mor gyflym gellir llenwi bord â llyfrau, yn enwedig os ydych chi’n darllen ar yr un cyflymder â DML. Mae’r ford yn llawn unwaith eto a dyma rannu beth sydd ar y ford honno gyda chi.
Gareth Ff. Williams, Adref heb Elin. (Gomer, 2006)
Sadie Smith, On beauty. (Hamish Hamilton, 2005)
James Shapiro, 1559: a [...]
Wrth grwydro Kelvingrove fe welais y dyn hwn yn gwisgo’r crys-T gyda’r neges ‘I still hate Thatcher’. Gofynnais iddo am gael tynnu ei lun ac fe gydsyniodd. Roedd yn ddigon cyfeillgar, ac roedd y neges ar ei grys yn fynegiant perffaith o’i agweddau tuag at y cyn-Brif weinidog, hyd yn oed ar ôl yr holl [...]
Mae’r profiad o ymweld ag amgueddfa newydd yn un llawn disgwyliadau annisgwyl. Dyna yw fy mhrofiad i. A doedd ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Kelvingrove yn Glasgow ddim yn wahanol. Kelvingrove yw un o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Ynys Prydain ac yn eiddo i Gyngor Dinas Glasgow. Cafodd ei hagor am y tro cyntaf yn 1901, [...]