Taith i Glasgow 2006-07-16 (2)
Efallai na wnes i gyrraedd o fewn i ddrysau Tŷ Dduw y bore ‘ny, ond fe fues i’n agos iawn i Deml Mamon, neu’r Buchanan Galleries, fel mae’n cael ei galw yn Glasgow. Wedi troi yn ôl o fy siwrnai seithug i Eglwys S. Silas, dyma neidio ar y trên yng ngorsaf Charing Cross a chyrraedd gorsaf Queen Street o fewn dim o amser a chrwydro’n hamddenol tuag at y Galleries gyda’u degau o siopau cadwyn tebyg i bob canolfan siopa arall ym Mhrydain. Ni sylwais ar unrhyw siop oedd yn wahanol yno.
Ond doeddwn i ddim yn bwriadu aros yn hir ‘ta beth oherwydd yr oeddwn i wedi penderfynu na fuaswn yn mynd i New Lanark nac i weld Senedd yr Alban wedi’r cyfan. Wrth gyrraedd y gwesty nos Sadwrn fe ddarllenais fod oriel ac amgueddfa Kelvingrove wedi ail-agor ar ôl bod ar gau am dair blynedd y dydd Mawrth cynt. Dyma gyfle yr oedd yn rhaid manteisio arno. Roeddwn wedi dod mewn i’r canol er mwyn mynd ar y metro i Kelvingrove.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael