Taith i Glasgow 2006-07-16 (1)

Eglwys Renfield St. Stephens, GlasgowRoedd bore dydd Sul yn wers am beryglon enwadaeth. Dwi’n teimlo’n cywilydd wrth adrodd yr hanes nawr, ond fel eglwyswr da, roeddwn i wedi bwriadu mynd i wasanaeth yn Eglwys Esgobol yr Alban y bore ‘ny. Ond nid oes cymaint â hynny o eglwysi esgobol yn Glasgow. Felly, cyn mynd roeddwn wedi edrych ar wefan Esgobaeth Unedig Glasgow a Galloway ac wedi gweld taw Eglwys St. Silas, Woodlands oedd yr ‘agosaf’. Roeddwn i wedi cymryd map gyda fi i ddangos y ffordd i’r lle. Felly bant â fi ar fy nhaith gan fynd heibio i nifer o eglwysi eraill (Eglwys yr Alban, Eglwys Rydd yr Alban, Bedyddwyr) roeddwn i’n bedant fy mod yn mynd i ddod o hyd i eglwys esgobol. Ond aflwyddiannus fu’r ymdrech – wedi cerdded am ryw ugain munud roedd hi’n ymddangos ‘mod i wedi cyrraedd rhyw hanner ffordd. Yn y diwedd dyma droi am ‘nôl mewn anobaith. Fe ddylswn i fod wedi mynd i chwilio amdani’r noson cynt i weld pa mor bell oedd hi mewn gwirionedd o’r gwesty (mae mapiau yn medru bod mor dwyllodrus!) neu’n hytrach fe ddylwn i fod wedi bod yn ddigon ecwmenaidd i alw mewn yn un o’r eglwysi eraill. Rwyf wedi dysgu fy ngwers bellach.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>