Taith i Glasgow 2006-07-15 (2)

Rhwng Oxenholme a PenrithEr gwaethaf rhybuddion nhsdirect a Siân Lloyd a’i chriw fe wnaeth pethau wella wedi mynd ar y trên yn Crewe (newidiwyd y platfform ar y funud olaf, wrth gwrs!). Yr oedd y trên dan ei sang a phobol wedi gosod eu cêsys a’i bagiau ar hyd y llwybrau, ond fe lwyddais i gael lle i fi fy hun yn y Quiet zone yn eistedd gyferbyn a phâr oedd yn darllen y Daily mail gyda mwy o arddeliad na Norman Tebbit, ac yn twtian o bryd i’w gilydd am y peth hyn a’r peth arall oedd yn ‘warthus’. Yr hyn oedd yn warthus go iawn yw’r ffordd yr oedd rhai pobol yn anwybyddu ysbryd y ‘Quiet zone’ yn gyfan gwbl ac yn gadael i’w ffonau symudol ganu’n uchel ac yn eu hateb gan ddefnyddio llais mawr “I’m on the train…” Yna’n sydyn fe welais y cwpl oedd yn darllen y Daily mail yn twtian ar hyn, a sylweddolais fy mod i yn raddol bach yn mynd yn hen ac yn troi mewn i ddarllenydd-Daily-mail fy hun. Rhoes y sylweddoliad hyn y fath sioc imi fel y penderfynais ar unwaith y byddwn yn newid y gosodiad ar fy ffôn symudol fy hun o ‘tawel’ i’w ganiad arferol. Yn sydyn teimlwn fy mod wedi troi’r llanw a fy mod unwaith eto ar y tu fas. Yn anffodus ni wnaeth neb fy ffonio yr holl amser yr oeddwn ar y trên i Glasgow, ond roeddwn i’n gwybod beth oedd wedi digwydd ac roeddwn i’n teimlo’n rhydd!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>