Dwi wedi bod ‘nôl yn Aberystwyth ers dydd Mercher, ond dwi’n ofni nad ydw wedi bod â’r amser na’r egni i ddechrau adrodd hanes fy nhaith i Glasgow. Ond o’r diwedd dwi wedi cael rhyw awr neu ddwy yn rhydd ac wedi’u gosod o’r neilltu ar gyfer y gwaith.
Roedd DJP wedi awgrymu y dylen i adael Aberystwyth yn gynnar fore Sadwrn er mwyn cael cymaint o amser â phosib yn Glasgow. Byddai hynny’n golygu gadael am 5.16am a chyrraedd Glasgow erbyn 1.10pm, sef taith o agos i wyth awr. Er hyfryted nifer o atyniadau’r ddinas, doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi’n werth yr aberth o godi mor gynnar fore Sadwrn. Yn ogystal bu’r diwrnod cynt yn un trwm iawn yn emosiynol, ac mae’n rhaid imi gyfaddef taw aros yn y gwely oedd y demtasiwn – rhyw fath o ddianc yn ôl i’r groth i gael teimlo’n sâff ‘gyda mam’. A dyna a wnes i tan rhyw naw o’r gloch, ond wedyn roedd yn rhaid mynd ati i baratoi a rhoi popeth yn ei drefn. Mae un peth bydda i’n ceisio ei wneud bod tro wrth fynd i ffwrdd am gyfnod o amser sef glanhau’r tŷ er mwyn dod ‘nôl wedi blino a medru mynd i’r gwely heb ddim gofid nac euogrwydd am gyflwr y tŷ. Nid wyf yn llwyddo bob amser, ond roedd ymadael am 11.31am yn golygu fod yr amser gyda fi i wneud fy nyletswyddau y tro hwn.
Dyw’r ffaith taw Trenau Arriva Cymru sy’n darparu gwasanaeth o Aberystwyth i Amwythig ddim yn llawer o reswm dros godi’n fore chwaith. Dyma drenau nad ydw i’n credu iddyn nhw gael eu glanhau ers i’r cwmni dderbyn y cytundeb gan Lywodraeth y Cynulliad ac na fyddant yn cael eu glanhau hyd nes y daw’r amser i geisio am y cytundeb y tro nesaf. Y tro diwethaf imi deithio ar y trên doedd yr un o’r tai bach yn gweithio a bûm yn dioddef ‘peth anghyfforddusrwydd’ am ryw ddwy awr a hanner. Y tro hwn doeddwn i ddim am gymryd y risg ac felly dyma fynd i’r tŷ bach ddwywaith yn y tŷ ac unwaith ar y orsaf cyn mynd ar y trên. Roeddwn yn dawelach fy meddwl o wybod na fyddwn yn teimlo fel carcharor oedd wedi bod mewn ’solitary’ erbyn imi gyrraedd Amwythig.
I ddweud y gwir roedd y daith yn ddiddigwydd iawn. Does gen i ddim i gwyno amdano. Roedden ni’n ychydig yn hwyr yn cyrraedd Amwythig, ond doedd hynny ddim yn syndod. Ar y trên roedd y gard wedi fy nghyngori i beidio â dilyn y cyfarwyddiadau i fynd i Wolverhampton, rhag ofn inni fod yn rhy hwyr i ddal y trên yno, ond yn hytrach gadael yn Amwythig a dal trên o fan’ny i Crewe a dal trên Glasgow fan’na. Felly y bu.
Efallai fod un peth arall y dylwn sôn amdano. Roedd y tywydd yn dwym. Ers dydd Iau roedd teulu Siân Lloyd wedi dechrau sôn am don o wres yn taro Ynys Prydain. Roedd hyn yn cael ei wneud mewn ffordd mor apocaluptig nes codi ofn a braw arna’ i. Dechreuais ystyried a fuasai teithio o dan y fath amgylchaidau yn beth doeth i’w wneud. Yn y diwedd fe wnes i orchfygu fy ofnau a’m hamheuon. Ond wrth deithio roedd hi’n dod yn amlwg fod y tywydd yn mynd yn dwymach ac yn dwymach. Roedd yn rhaid yfed digon o ddŵr yn ôl cyfarwyddiadau nhsdirect ac felly roeddwn yn cymryd pob cyfle i yfed dŵr. Felly yn lle diawlio’r hanner awr o aros yn Amwythig a’r deugain munud yn Crewe, fe’u gwelais fel cyfle i osgoi trawiad gwres. Dyma rybudd nhsdirect am drawiad gwres.
The seriousness of heatstroke should not be underestimated. You can die from the condition as a result of heart failure, kidney failure or brain damage caused by excess body heat. It’s therefore crucial that medical assistance is sought immediately.
A oedd hi’n syniad da teithio wedi’r cwbwl?

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael