Pwy fydd yn cael ei arestio nesaf?

Ty'r ArglwyddiMae’r rhwyd yn cael ei thaflu yn ehangach gyda phob diwrnod. Arestiwyd yr Arglwydd Levy a bu’r Argwlydd Sainsbury yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliadau, a phwy a ŵyr pwy fydd nesaf. Yn bersonol dwi’n credu y dylai’r rhan fwyaf o aelodau Tŷ’r Arglwyddi gael eu harestio am fodloni ar fod yn rhan o sustem mor amlwg a sylfaenol lwgr. Cafodd pawb ei sedd yno trwy ymgreinio a llyfu, dyna natur y lle. Does neb yn ennill ei le trwy eu gallu a’u rhinweddau eu hunain, mae’r cyfan yn dibynnu ar ddal llygad rhywun pwysig – arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn bennaf – a does dim sy’n tynnu sylw rhywun yn fwy na lot fawr o arian yn cael eu chwifio o’ch blaen. Yr unig ffordd arall i fewn yw’r ffordd yr aeth Maggie Jones (Blaenau Gwent) i fewn, sef trwy golli etholiad! Yn bersonol hoffwn i weld diddymu’r sefydliad fel y mae, a gadael y siambr yn wag nes bod gennym gwell syniad beth i’w wneud â’r lle. Petai David Cameron yn troi Tŷ’r Cyffredin yn senedd i Loegr (fel mae ei gynlluniau yn bygwth gwneud) mae’n bosib y gallai’r siambr arall gael ei defnyddio fel rhyw gynulliad ffederal i wledydd Prydain. Ond unwaith i senedd Lloegr gael ei sefydlu efallai y buasai’r glweidyddion yn colli diddordeb yng ngweddill Prydain ac yn gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain… Ychydig bach o ffantasi fore Sadwrn! Mae’n rhaid nad ydw i wedi dihuno’n iawn. Dyna sut gall bore Sadwrn fod os nad ydych chi â gormod o bethau eraill i’w gwneud.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>