Euogrwydd

Pobl yn ffoi o GazaAr ôl yr holl drafod am selebs llenyddol yng Nghaerdydd dwi wedi mynd i deimlo’n euog am anwybyddu y pethau mawr sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y byd, fel ymosodiadau Israel ar lain Gaza a Lebanon fel cosb am herwgipio ei milwyr. Ond wedyn dwi’n teimlo’n euog am sôn am y fath ddigwyddiadau erchyll mewn blog sy’n llawn cymaint o ddwli a siarad di-werth. Ond mae’n amhosib anwybyddu yr hyn sy’n digwydd, a’r cosbi torfol ar bobol Gaza a Lebanon; mae cosbi torfol yn drosedd rhyfel yn ôl Cytundebau Genefa, fel y mae cymryd gwystlon hefyd yn erbyn y cytundeb. Ond y partïon i’r cytundebau hyn yw llwyodraethau a gwladwriaethau, ac nid mudiadau terfysgol sy’n gweithio y tu fas i’r gyfraith ‘ta beth. Ac os yw Israel yn iawn taw llywodraeth yr Awdurdod Palesteinaidd (y blaid Chamas) a Lebanon sydd wedi bod y gyfrifol am yr ymosodiadau mewn modd uniongyrchol neu anuniongyrchol – ni ellir gwadu fod yr hyn a ddigwyddodd yn llain Gaza wedi bod yn gosb ar y boblogaeth yn gyffredinol yn hytrach na gweithgaredd rhyfel o fewn i delerau Cytundebau Genefa. Roedd gweld y dioddefaint yn llain Gaza yn ofnadwy. Wrth gwrs dyw’r hyn mae Israel wedi bod yn ei wneud yn dactegol ond yn adlewyrchu’r hyn a wnaed gan Brydain a’r Taleithiau Unedig yn ystod rhyfeloedd y Gwlff ac Irác – ymosod ar sifiliaid er mwyn tanseilio’r llywodraeth; ac maen nhw ond yn medru gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud heddiw trwy ‘gydsyniad’ y Taleithiau Unedig. Petaent hwy am roi stop ar y peth buasai’n gwbwl bosib iddyn nhw wneud hynny!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>