Bant i Glasgow

Dwi mynd i Glasgow heddiw. Dwi’n gobeithio (yn erbyn gobaith) cael taith dda ar Trenau Arriva Cymru a chyrraedd Glasgow cyn iddi nosi heno. Bydd Glasgow yn llawn, oherwydd mae cynhadledd yr European Renal Association yn cael ei chynnal yno. Bydd hyn yn golygu rhyw 4,000-6,000 o ymwelwyr yn fwy na’r arfer! Dwi’n edrych ‘mlaen i weld y cwmni fydd yno i siarad gyda nhw. Dwi ddim yn rhy siŵr beth dwi am ei wneud yfory. Dwi’n ffansio mynd i Gaeredin am y dydd i weld Senedd yr Alban, er dwi’n gwybod bod digon i’w wneud yn Glasgow a’r cyffiniau. Pan fues i yn Glasgow rhyw bedair blynedd yn ôl fe es i New Lanark yn y glaw, os yw’r tywydd i fod yn hyfryd fel maen nhw’n ei addo efallai ei bod yn syniad gweld y lle a’r haul yn disgleirio.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Bant i Glasgow

  • Yn y pendraw wnes i ddim ymweld â New Lanark. Yn hytrach fe dreuliais y rhan fwyaf o ddydd Sul yn crwydro o gwmpas amgueddfa ac oriel Kelvingrove – prif amgueddfa ac oriel dinas Glasgow. Roedd y lle wedi bod ar gau am dair blynedd er mwyn ei adnewyddu. Dim ond rhyw bedwar diwrnod yn gynt roedd y lle wedi agor ac roedd e’n dan ei sang! Fe dynnais toreth o luniau ac fe fyddaf yn eu rhannu gyda chi pan fyddaf yn dod ‘nôl nos yfory (nos Fercher). Mae amgueddfa Kelvingrove yn werth ymweld â hi.

  • Emyr

    Difyr iawn, fel arfer.

    Dim son mai Cymro oedd Robert Owen ar wefan New Lanark, hyd y gwela’ i.

    Neu ai fi sy’n gul?

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>