Llyfr y flwyddyn 2006

Dwi ddim yn gwybod sut mae’n bosib penderfynu rhwng llyfr o feirniadaeth lenyddol ar yr oesoedd canol diweddar, nofel am fywyd merch yng ngymoedd y de, a bywgraffiad gwleidyddol. Mae’n swnio’n debyg i feirniadu’r Best of breed yn sioe gŵn Crufts rhwng St Bernard, Chow a Shih tzu. Rhywbeth dibwynt yw ceisio gwneud hynny ‘ta beth. Mae’r weithred yn ddi-werth heblaw i’r enillydd sy’n derbyn gwobr o £10,000. Ond bydd y canlyniad yr un mor ddi-sylw ymhen y flwyddyn â’r ffaith fy mod i wedi ennill y wobr gyntaf mewn sioe fabis yn Neuadd y Farchnad, Crymych tua 1962.

Gwaith poenus yw trafod llenyddiaeth!GPRhaid defnyddio'r dwylo i drafod llyfrau go iawnNL

Yr hyn oedd yn ychwanegu sbeis i’r gystadleuaeth eleni oedd bod BBC Cymru wedi dewis Cylch Darllen y Cŵps i gynnig sylwebaeth ar y llyfrau Saesneg yn y gystadleuaeth. Roedd y rhaglen deledu lle’r oedden nhw’n trafod y llyfrau fel rhyw barodi o’i hunan wrth i’r pump ohonyn nhw yn siarad Saesneg â’i gilydd mewn sefyllfaoedd cwbl ffals. Yr hyn sy’n ddiddorol yw na wnaeth yr un ohonyn nhw enwi’r llyfr a ennillodd y gystadleuaeth, sef To Babel and back gan Robert Minhinnick fel eu hymgeisydd hwy am y wobr.

Dyma aelodau’r grŵp yn cyhoeddi eu penderfyniadau ar y rhaglen fel y’u gwelwyd ar deledu Plas-yn-Dogfael!

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>