Rhai sylwadau pellach ar brotest ‘Dim israddio Bronglais’
Fe dynnais i nifer o fideos byr o brotest yn y castell ac yn cerdded i lawr y Stryd Fawr yn Aberystwyth. Ar y blaen roedd grŵp Samba yn cadw reiat ac yn bywiogi’r holl. Roedd hi’n ddiddorol iawn sylwi ar y manŵfrio gwleidyddol oedd yn digwydd yno. Roedd y Dem Rhyddiaid a Phlaid Cymru yn ceisio bod yn fwy anwleidyddol na’i gilydd ac ar yr un pryd yn bod yn wleidyddol iawn. Un peth sylwais i arno oedd yn ddiddorol, ond dwi ddim yn credu ei fod i’w weld ar y fideo, oedd y modd yr oedd ymgeisydd cynulliad y Dem Rhyddiaid, sy’n siarad Cymraeg, yn cysgodi yr aelod seneddol Dem Rhydd nad yw’n medru siarad Cymraeg, yn agos iawn. Nawr efallai bod esboniad cwbwl ddiniwed dros yr agosatrwydd hyn, ond i’m tyb roedd yn edrych ychydig yn rhy debyg i ‘bodyguard’ ieithyddol, jyst rhag ofn i sefyllfa o embaras godi lle roedd yn rhaid i’r aelod seneddol gyfaddef nad yw’n siarad Cymraeg yn ddigon rhugl eto, er iddo ddisgrifio ei hun fel ‘dysgwr’ ers imi ei gofio. I fi roedd hi’n rhyfedd iawn gweld aelod seneddol yn annerch torf yn Aberystwyth heb ymdrechu dweud dim yn Gymraeg er ei fod wedi bod yn dysgu’r iaith. Diffyg hyder? Pwy a ŵyr gan bod cymaint o ffactorau i’w hystyried ar adegau felly. Roedd yr hyn oedd ganddo ei ddweud yn iawn, ond mae’n rhaid fy mod i’n hen ffasiwn yn disgwyl clywed peth o hynny yn Gymraeg.
Fe wnaeth hyn imi feddwl dros bethau ac fe sylweddolais fod tuedd bellach i rai pobol guddio y tu ôl i’r gair ‘dysgwr’ a bod hynny wedi bod yn gyfrifol am ddiraddio’r gair hwnnw. Roedd ‘na adeg pan roedd bod yn ‘ddysgwr’ yn fathodyn i’w wisgo gydag anrhydedd a balchder. Roedd dysgwyr yn herio’r byd, yn troi eu cefnau ar bwysedd cynyddol gwerthoedd diwylliant byd-eang ac yn sefyll yn erbyn y lli. Bellach mae ‘dysgwr’ wedi dod yn air hawdd i’w ddefnyddio er mwyn amddiffyn yr unigolyn rhag unrhyw gyhuddiadau sy’n cael eu taflu atynt eu bod yn rhy ddiog, rhy falch, rhy dwp, rhy ragfarnllyd, rhy ddi-hid, rhy brysur, rhy anwybodus, neu jyst yn rhy ‘gall’ i ddysgu Cymraeg. Yn aml iawn bellach mae ‘dysgwyr’ yn cael eu hapwyntio i swyddi cyhoeddus (am ba reswm bynnag) lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ac mae’n amhosib iddyn nhw gyflawni y rhan Gymraeg o’u swydd. Mae’r disgrifiad ‘dysgwr’ felly yn dod yn fodd o barcio’r mater yn gyfleus heb orfod ateb unrhyw gwestiynau amdano. Gall rhywun fod yn ‘ddysgwr’ am bum mlynedd, deng mlynedd, ugain mlynedd ac maen nhw’n disgwyl yr un cydymdeimlad, yr un parch, yr un maddeunat â rhywun sy wedi bod yn dysgu am bum diwrnod, deng wythnos, neu ugain mis. Dwi’n ofni fod pethau wedi newid yng Nghymru bellach.
Yr unig fathodyn y mae’n iawn i rywun wisgo bellach ar ôl pum mlynedd yw’r bathodyn sy’n dweud ‘wedi dysgu’. Mae digonedd o bobol sydd wedi gwneud hyn gan gynnwys y rhai mwyaf annisgwyl.
Ar ôl y rant fach honno dyma gyfle ichi weld yr holl fideos o’r rali, os oes gennych ddiddordeb.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael