Protest ‘Dim israddio Bronglais’, Aberystwyth

Y bore ‘ma bues i mewn protest wedi’i threfnu gan ABer, grŵp sy’n ymgyrchu i gadw gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Mae ymgynghoriad ar droes a allai olygu israddio’r gwasanaethau yn yr ysbyty a gofyn i gleifion deithio i Gaerfyrddin neu’n bellach. Mae hyn yn effeithio gogledd Ceredigion, de Gwynedd a rhannau o ogledd Powys yn arbennig. Heddiw roedd rali a gorymdaith o’r castell hyd at Ysbyty Bronglais. Yn y castell roedd Elin Jones, AC yn siarad a’r aelod seneddol. Roedd yr orymdaith wedyn i fyny Heol y Wig, i lawr y Stryd Fawr ac i fyny Penglais hyd at fynedfa’r ysbyty lle roedd pobol eraill i fod i siarad. Rhaid imi gyfaddef na wnes i orymdeithio yr holl ffordd i’r ysbyty er mwyn dod ‘nôl at y cyfrifiadur i lanlwytho’r lluniau a’r fideos.

Dim israddio Bronglais!

Rhagor o luniau o’r rali a’r orymdaith.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>