Neithiwr fe aeth criw ohonon ni mas ar ôl gwaith. Roedd y noson wedi cychwyn yn gynnar pan wnes i ac RO gyfarfod am ryw 5.30pm yn y Varsity. Erbyn rhyw 6.30pm roedd pobol eraill wedi dechrau dod ac fe aeth RO. Gyda phawb yn byw mor bell o’u lle gwaith bellach mae’r arfer o fynd mas ar ôl gwaith nos Wener yn un sy’n diflannu neu’n digwydd mor achlysurol fel ei fod yn troi yn rhywbeth mawr, ac wrth gwrs dyw gweithio mewn llyfrgell ddim cweit yr un fath â gweithio mewn gwaith dur!
Fel dywedais i dechreuson yn y Varsity lle gawson ni swper, ac wedyn aeth pawb ymlaen rownd y dref. Dwi’n ofni fy mod i’n dangos fy oed bellach ac yn dewis mynd adref i’r gwely pan bo’r noson yn ifanc a’r hwyl go iawn ond yn dechrau. Roedd y cwmni yn y Varsity yn ddigon gwaraidd, ac fe gafwyd sgyrsiau digon hamddenol am y peth hyn a’r peth arall. Fe gododd y gwaith ei ben nawr ac yn y man, ond nid yn rhy aml (diolch byth).

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael