Wedi rali Ysbyty Bronglais dyma gwrdd â nifer o bobol yn y Caban am goffi. Fe gafodd RO rywbeth i’w fwyta ond roedd e’n gorfod gadael yn gynnar gan fod ei waith yn mynd ag e i gyfarfod pwyllgor y gymdeithas gerdd dafod, Barddas. Roedd DJP yn mynd i wneud rhywbeth ac felly roedd yntau’n mynd yn gynnar hefyd. Ond wrth adael y Caban pwy welon ni ond DML ac fe lwyddais ei berswadio i ddod gyda mi i gael cinio mewn caffi sydd newydd agor yn Heol y Wig. Ie, lle bwyta arall yn Heol y Wig, mae’n rhyfedd fod ‘na le iddyn nhw i gyd – Penguin, Sun Hong, Home Caffee, Caban, Hong Kong, Hollywood Pizza, Lip smackin’ chicken, siop/caffi newydd Ultracomida i agor, a’r lle lle’r oedden ni heddiw, Olive Branch.
Mae caffi wedi bod yn y fan ers blynyddoedd. Roedd yn Rock Café ar un adeg, ac yna’n Oskars, a nawr mae’n daferna Groegaidd, o dan yr enw Olive Branch. Roedd yr awyrgylch yn y caffi ei hun yn hyfryd gyda’r lle wedi’i addurno’n chwaethus ac yn ysgfan ac heb fod y byrddau ar ben ei gilydd. Roedd y ‘bar’ lawr llawr yn llawn pan alwodd DML a finnau ac felly ar ôl aros am ychydig fe gawsom ni ein tywys lan lofft i ystafell olau ac agored gyda golygfeydd hyfryd allan drwy’r ffenest dros y môr a’r Hen Goleg. Yn y cefndir roedd ‘na gerddoriaeth Roegaidd draddodiadol a chwaethus yn canu. Roedd ein gweinyddes yn serchog ac yn llawn bywyd, ac yn swnio’n dramor – tybiais mae Groeges oedd hi ar y cychwyn, ond erbyn diwedd y pryd pan gefais gyfle i’w holi, cefais wybod taw Pwyles oedd hi fel pawb arall sy’n gweithio mewn gwestai a bwytai trwy Gymru gyfan mae’n ymddangos i mi! Fe ddaeth hi â’r bwydlenni, un Roegaidd ac un ‘Brydeinig’. Roedd y dewis Groegaidd yn ddiddorol ac roedd sawl peth yn mynd â fy ffansi, ond yn y diwedd fe ddewisais gael salad Groegaidd. Pan ddaeth hwn roedd yn ffres ac flasus, er efallai bach yn drwm ar y winwns. Wedyn pwdin o grwst ffilo a syltanas a chnau. Hyfryd. Byddaf yn dod ‘nôl i’r lle hwn eto dwi’n gobeithio.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Caffi Groegaidd
Fy nhro fi i ofyn – ‘Siwd wyt ti’n dod o hyd i’r llefydd ‘ma?’ ( Byw yn y dref debyg!)
Rhaid trio hwn – mae’n swnio’n ddiddorol, ond nid am Jacked potato!
CG