Poethdon

Dwi’n ofni taw’r gwres mawr yw fy esgus i am esgeuluso’r blog dros y dyddiau diwethaf. Roedd hi, ac mae’n dal i fod yn boethdon swyddogol mewn rhai ardaloedd, ond dwi ddim yn credu fod hynny’n wir am Aberystwyth. Dwi ddim yn gwybod a oedd hi’n ‘boethdon’ swyddogol yn Aberystwythroedd hi’n rhy dwym i fi feddwl, ac heb feddwl does dim blogio’n bosib. I rai bydd hynny’n swnio’n anghredadwy gan nad oes ôl llawer o feddwl o gwbwl ar y baldorddi hyn, ond galla’ i addo buasai pethau’n dipyn yn waeth heb feddwl.

YR Almaen v. Yr EidalY rheswm ‘mod i’n ffaelu meddwl oedd bod hi’n rhy dwym i gysgu, a heb gwsg dechau does dim gobaith cael y meddwl i weithio’n iawn. A oes ‘na gyfrinach ar gyfer cysgu mewn tywydd twym? Dwi’n cysgu’n borcyn, dwi’n cysgu heb flanced na dim drosta’ i, ond er gwaetha hynny dwi’n dal yn ei chael hi’n anodd cysgu. Dyw hi ddim lot o help bod gemau pêl-droed Cwpan y Byd yn dal i fynd yn eu blaenau. Efallai ei bod hi’n fwy anodd cysgu ar ôl cyffro gêm fel un yr Almaen a’r Eidal. Mae dwy gôl ym munudau olaf amser ychwanegol yn gyffrous iawn! Yn ychwanegol at hynny rhaid cyfaddef taw gwrando ar y gemau ar y radio fydda’ i, ac yn ôl DJP mae hynny’n gwneud y cyfan yn fwy cyffrous oherwydd yr angen i sylwebu mewn ffordd ‘fywiog’. Efallai taw’r ateb fyddai mynd i’r gwely heb wrando ar y gemau a’u recordio a gwrando arnyn nhw yn y bore. Neu efallai taw’r tywydd sydd ar fai wedi’r cyfan.

Rhaid imi gyfaddef fy mod i ychydig yn siomedig taw’r Eidal enillodd – buasai gweld yr Almaen yn y ffeinal wedi rhoi mwy o foddhad i mi, ond efallai nid i bawb arall.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>