Dwi ar fy ngwyliau heddiw fel ddoe ac mae’n ymddangos i mi bod mwy o bethau’n digwydd pan ych chi ar eich gwyliau. Wel, dyna fy nghanfyddiad i o ddarllen y Western mail heddiw. Fel arfer fy nghŵyn i yw nad oes digon o newyddion ynddo – lifestyle, nes eich bod wedi cael llond bol o dai ac addurno a DIY a coginio a iechyd a … ond dim newyddon caled – a dyna yw’r condemniad mwyaf ar y papur sy’n glaw ei hun yn bapur “cenedlaethol” ond yn cael ei ddarllen gan ychydig ddegau o filoedd yn unig. Ond heddiw roedd rygbi (parti priodas Duncan Jones) yn gorfod rhannu’r ddalen flaen gyda stori am afreoleidd-dra mewn pleidleiso ym Mhen-y-bont ar Ogwr a marwolaeth milwr o Gymro ar ôl cael ei gosbi am gam-ymddwyn.
Y tu fewn wedyn mae ‘na stori am Trish Law yn cymryd ei lle yn y Cynulliad Cenedlaethol, lle bydd hi’n eistedd rhwng John Marek a Jocelyn Davies. Wrth ddod yn aelod o’r Cynulliad mae mwyafrif yr aelodau’n fenwyod, a hynny am y tro cyntaf mewn unrhyw sefydliad ’senedd-debyg’ (buasai’n ffolineb ei alw’n senedd go iawn) yn y byd. Mae’r Western mail yn mynd i dref ar hyn; dyna’r fath o beth fyddan nhw’n ei roi yn ei rhestr nesaf o bethau i fod yn falch ohonynt am Gymru – Stadiwm y Mileniwm, Canolfan Mileniwm Cymru, Shirley Bassey, Tom Jones, a mwy o fenwyod yn ein ’senedd’ nag unrhyw wlad yn y byd! Grêt i fod yn Gymro neu’n Gymraes!
Mae cael y Western mail yn ddiddorol yn poeni ychydig arna i. Efallai y dylwn geisio mynd mas yn fwy aml; efallai buasai ymuno â chôr yn syniad, neu ysgrifennu nofel.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael