God save the prince of Wales!

Charles a Camilla yng NghymruDyw rhai pethau ddim yn newid. Mae’r gaeaf yn oer, mae’r haf yn gynnes, ac mae pobol Cymru yn caru y Tywysog a Duges Cernyw. Dim ond sticio teitl brenhinol ar unrhyw un ac fe fydd pobol y dywysogaeth fel gweddill y deyrnas ond yn rhy barod i syrthio o’u blaenau mewn parchedig ofn. Gyda’r holl newidiadau eraill mewn bywyd mae’n dda fod pethau fel hyn yn aros yr un fath. Mae ‘na rai gwerthoedd na ellir mo’u hepgor na’u hanwybyddu. Mae eu ffraethineb a’u harabedd y tu hwnt i’n deall ni feidrolion.

Later they [Charles a Camilla] moved on to Rhossili Village Hall where the couple met a series of groups on Gower and were entertained by a harpist.

But when he [Charles] unveiled a plaque and examined the spelling of Rhossili he found it was wrong.

The name of the village, on the English version of the bilingual plaque, had been spelled with two Ls. The prince joked the village was now “Rhossilli” as in “Llanelli”.

Yn ddiddorol iawn yn Sir Benfro, wrth ymweld â chanolfan newydd Prince’s Trust Cymru yn Cleddau Reach, bu’n rhaid i’r Tywysog a Chamilla ymdopi â chwestiwn hunaniaeth drostynt eu hunain wrth orfod defnyddio catapwlt oedd yn cario baner Cymru yn ogystal â baner yr undeb. Dilema moesol os bu un erioed i Charles a Chamilla!

Camilla yn Sir Benfro

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>