Dim ond rhyw fis sydd i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol bellach, ac mae’n amser imi ddechrau paratoi ar gyfer yr wythnos. Rydw i wedi archebu llety yn barod ym mhentref myfyrwyr Hendrefoelan, Abertawe. Byddwn ni mewn llety hunan-arlwy ac felly mae’n rhaid dechrau meddwl beth fydd y fwydlen am yr wythnos. Bydd yn rhaid [...]
Dwi wedi cael gwerth-am-fy-arian o’r papurau newyddion wnes i eu prynu heddiw. Dwi’n prynu’r Guardian a’r Western mail yn weddol gyson, ond fel arfer dwi ddim yn cael yr amser angenrheidiol i’w darllen o glawr i glawr. Mae’n rhyfeddol meddwl am yr holl ysgrifennu sy’n llenwi hyd yn oed y Western mail bob dydd, ac [...]
Rhaid imi gyfaddef fy mod i wedi gwylio’r gyfres gyntaf o Big brother a ddarlledwyd yn y flwyddyn 2000 gyda diddordeb mawr. Dyna’r tro cyntaf i gyfres oedd yn apelio mor amlwg i’r voyeur ymddangos ar y teledu. Ac mae’n rhaid imi gyfaddef fod yr agwedd honno ar y gyfres wedi apelio’n fawr iawn ata [...]
Dyw rhai pethau ddim yn newid. Mae’r gaeaf yn oer, mae’r haf yn gynnes, ac mae pobol Cymru yn caru y Tywysog a Duges Cernyw. Dim ond sticio teitl brenhinol ar unrhyw un ac fe fydd pobol y dywysogaeth fel gweddill y deyrnas ond yn rhy barod i syrthio o’u blaenau mewn parchedig ofn. Gyda’r [...]
Dyna’r fath o newydd sy’n codi fy nghalon i. O’r diwedd bydd yn rhaid i blant Cymru fodloni ar geisio bod yn brif weinidogion eu gwlad eu hunain o hyn allan. Dyw’r peth ddim yn ddeddf eto, ond mae’n ymddangos fod y Torïaid yn dod yn agos at greu rheol debyg. Iddyn nhw mae’n ffordd [...]
Dwi ar fy ngwyliau heddiw fel ddoe ac mae’n ymddangos i mi bod mwy o bethau’n digwydd pan ych chi ar eich gwyliau. Wel, dyna fy nghanfyddiad i o ddarllen y Western mail heddiw. Fel arfer fy nghŵyn i yw nad oes digon o newyddion ynddo – lifestyle, nes eich bod wedi cael llond bol [...]
Dwi’n ofni taw’r gwres mawr yw fy esgus i am esgeuluso’r blog dros y dyddiau diwethaf. Roedd hi, ac mae’n dal i fod yn boethdon swyddogol mewn rhai ardaloedd, ond dwi ddim yn credu fod hynny’n wir am Aberystwyth. Dwi ddim yn gwybod a oedd hi’n ‘boethdon’ swyddogol yn Aberystwythroedd hi’n rhy dwym i fi [...]