Roedd ‘na erthygl ddiddorol iawn yn y rhifyn diweddaraf o’r New statesman gan y golygydd gwleidyddol Martin Bright o dan y pennawd ‘Ministers no speaky nothing’. Roedd yn dadlau taw’r rheswm fod y llywodraeth Lafur Newydd yn edrych tuag at y Taleithiau Unedig am ddulliau newydd o ddelio gyda throseddau yw am nad yw’r rhan fwyaf o weinidogion y llywodraeth yn siarad dim ond Saesneg.
In a speech in Bristol designed to launch a national debate on crime (yes, another one), the Prime Minister will say he is planning to extend “community courts” being trialled in Liverpool and Salford, which are designed to give local people a greater say in justice: yet another idea imported from the US.
In America there are nearly 700 prisoners for every 100,000 of the population, compared to 140 here; the murder rate in Washington, DC is around 30 times that of London. Surely it would make more sense to look at what they are doing right in Brussels, where the murder rate is less than one per 100,000, or send a minister to Norway, where the rate of incarceration is half that of this country. So why does the government insist on imposing ideas on us from a country which provides a terrifying model of how not to run a criminal justice system? The answer, it seems, is simple: language.
“In America they speak and read English, it’s as crude as that,” says Denis MacShane, the former Europe minister, who has the distinction of speaking French, German and Spanish. He believes MPs should be offered language courses. “It’s reasonable to expect a working knowledge [of a European language]. But people just pick up what they want to hear.” He said it was common to see an American or British newspaper in the office of a European minister, but that he had never seen a British minister reading a European newspaper.
Fe welwyd yr un duedd yr wythnos hon gyda David Cameron yn bygwth diddymu Deddf Iawnderau Dynol 1998 a’i disodoli gan fesur hawliau, tebyg i Bill of Rights y Taleithiau Unedig. Nawr dwi’n siŵr bod Cameron yn siarad iaith os nad ieithoedd Ewropeaidd ar ôl i’w deulu dalu cymaint am ei addysg. Ond mae’r yrfa tuag at y Taleithiau Unedig yn mynd yn ei blaen bron yn ddirwystr. Gyda Cameron, Blaid a Brown yn ceisio profi eu bod hwy yn caru y Taleithiau Unedig yn fwy na’r lleill. Os rhywbeth mae ganddynt lawer i’w ddysgu ganddynt, ond dysgu sut i beidio â gwneud pethau a beth ddylid ei osogoi ar bob cyfrif.
Buasai’n drueni mawr petai’r ffaith bod gwleidyddion Prydain a’r Taleithiau Unedig yn rhannu’r un iaith yn golygu hefyd ein bod yn rhannu’r un agwedd tuag at gyfraith a threfn, ac at wasanaethau cyhoeddus. Oherwydd o’r Taleithiau Unedig mae’r pwysedd a’r syniadaeth yn dod am sut i breifateiddio cyfran helaeth o wasanaethau sydd wedi’u darparu yn gyhoeddus hyd yn hyn. Dyw prefateiddio ddim yn gweithio mewn dinasoedd mawrion, beth fyddai effaith hynny yng Ngheredigion a gweddill cefn gwlad Cymru lle mae gwasanthau cyhoeddus nad ydynt yn ceisio gwneud elw yn ei chael hi’n anodd. Dyma un o gamgymeriadau mawr y llywodraeth Lafur Newydd. Ac mae rhai o gyhoeddiadau’r undeb Unison yn gwneud yr achos yn gryf iawn yn erbyn. Yn yr un modd mae ffederasiwn gweithwyr sector cyhoeddus byd-eang Public Services International yn dangos sut mae’r pwysedd yn dod o gwmnïau rhyngwladol i wneud i ffwrdd â rheolau ‘diangen’ er mwyn gwneud preifateiddio yn haws ac yn fwy proffidiol iddyn nhw!

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Paid â holi cwestiynau anodd! Efallai taw’r ateb gorau fyddai ‘yn araf’.
Cytuno’n llwyr â thi, ond mae’n rhaid i mi gyfadde nad ydw innau’n rhugl yn yr un o’r ieitheodd Ewropeaidd eraill. Mae gen i grap ar Ffrangeg ond mi ddylwn fynd ati i’w dysgu yn iawn. Sut mae’r Iseldireg yn dod yn ei blaen?