Tybiais ar ôl fy ngwibdaith i ystad ddiwydiannol Glanyrafon y buasai unrhyw daith arall yn ymddangos yn ddiflas. Ond roedd hynny yn gamgymeriad, oherwydd o fewn pedair awr ar hugain roeddwn yn sefyll ar sgwâr Llanbadarn Fawr wedi’r daith bws fer o Aberystwyth. Yr hyn oedd yn fy nenu i Lanbadarn Fawr oedd gweithgaredd eglwysig, sef gofwy yr archddiacon yn y ddeoniaeth – hynny yw ’swyddogion’ (clerigion, wardeniaid a darllenwyr lleyg) holl eglwysi gogledd Ceredigion yn dod ynghyd i gael siars gan ‘prif swyddog’ ardal Ceredigion. Mae’r gofwy, neu’r ymweliad, yn arfer hynafol. Cyn pob gofwy, sy’n digwydd yn flynyddol, bydd yr archddiacon yn anfon ‘erthyglau ymholiad’, neu ffurflen, at bob eglwys. Gwaith y wardeiniad a’r clerigion yw ateb y cwestiynau ar y ffurflen. Bydd y cwestiynau yn ymwneud â sefyllfa ysbrydol y gynulleidfa a hefyd cyflwr adeiladau, mynwentydd, &c. Dywedais fod hyn yn arfer hynafol ac fe geir yn Archifau’r Eglwys yng Nghymru sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, erthyglau ymholiad sy’n dyddio yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg.
‘Ta beth, golygodd hyn fy mod wedi cael fy hun yn Llanbadarn Fawr, a hynny ychydig o amser cyn y gofwy. Fe roes hynny ychydig amser imi grwydro o gwmpas y sgwâr a sylwi ar y peth hyn a’r peth arall. Un o’r pethau diddordol ar y sgwâr yw cofeb Lewis Pugh Evans, ennillydd y Victoria Cross yn Rhyfel byd, 1914-1918, a warden Eglwys Llanbadarn Fawr. Nid yw wardeniaid yn cael eu torri o’r un brethyn heddiw! Dyma’r arysgrif sydd ar y gofeb:
ER COF AM / y Brigadydd Gadfridog / LEWIS PUGH EVANS / V.C., C.B., C.M.G., D.S.O. / 1881-1961 / o Gelli Angharad / ym mhlwyf Llanbadarn Fawr.
Swyddog o Gatrawd Brenhinol / Uchledir y Gwylwyr Du / 1899 hyd 1938. Warden Eglwys / Llanbadarn Fawr, / Diprwy Raglaw / Sir Aberteifi, / Rhyddfreiniwr tref / Aberystwyth, / Ynad Heddwch.
Dyfarnwyd Croes Victoria / i’r Is-Gyrnol Evans am / ddewrder ac arweinyddiaeth / amlwg pan, fel cadlywydd / Catrawd 1af Sywdd Lincoln, / fe arweiniodd ei ddynion, / i’r gâd ar 4ydd Hydref 1917 / yn ystod brwydyr
Passchendaele.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael