
Yr wythnos hon cyhoeddodd y canghellor Gordon Brown ei fod am neilltuo’r cyllid ar gyfer adnewyddu gallu niwclear annibynnol y Deyrnas Gyfunol. Bydd cael sustem yn lle Trident yn costio rhyw £25 biliwn. Beth allen ni ei wneud â chyfran Cymru o’r arian?
Wrth gwrs, nid yw sylwadau diweddar Tony Blair am ddechrau rhaglen o adeiladau gorsafoedd pwer niwclear heb gysylltiad â hyn yn fy marn. Nid dim ond yn Iran mae ynni niwclear ac arfau niwclear yn mynd law yn llaw â’i gilydd. Mae’r Deyrnas Gyfunol wedi arwyddo’r Cytundeb i atal lledaenu arfau niwclear (Nuclear Non-Proliferation Treaty, neu, NPT). Mae arfau Trident yn mynd i ddod i’w diwedd tua 2020, ac mae’r enwog Hans Blix wedi rhoi her i Brydain a Ffrainc.
“Any state contemplating the modernisation of its nuclear weapon systems must consider such action in the light of all relevant treaty obligations and its duty to contribute to the international nuclear disarmament process.
“France and Britain are now at a crossroads. Going down one road would show their conviction that nuclear weapons are not necessary for their security. Going down the other would demonstrate to all states a belief that these weapons continue to be indispensable.”
Ceir digon sy’n codi eu lleisiau gyda Gordon Brown o blaid cael arfau newydd. Dyna Tony Blair ei hun, y diwydiant arfau, ac wrth gwrs y Taleithiau Unedig fydd yn elwa’n ariannol yn fwy na neb o’r ddilyn y llwybr hwn. Yn strategol filwrol does dim pwynt i arfau o’r fath; pa ‘ryfel yn erbyn terfysgaeth’ a gaiff ei hennill trwy arfau niwclear? Na, mae’r cyfan yn rhan o falchder y wladwriaeth Brydeinig – efallai bod yr ymerodraeth yn ddim mwy na’r Malvinas, Gibraltar ac Ynys Pitcairn, ond fe fydd gennym ni arfau niwclear ac felly fe fyddwn i’n parhau yn aelodau o glwb y gwladwriaethau ‘pwysig’.
Felly nid yn unig y mae Gordon Brown wedi gwastraffu miliynau o bunnoedd trwy ei gynlluniau preifat yn y gwasanaeth cyhoeddus, mae e nawr am inni wastraffu mwy fyth ar arfau niwclear yn y dyfodol. A hynny nid am resymau amddiffyn ond er mwyn twyllo ein hunain fod lle i Brydain o hyd ymhlith y pwerau mawrion. O’r fath wastraff, o’r fath ddwli!

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael