Dyw gwybod y bydd pawb yn dweud ei bod hi’n nodweddiadol o ddosbarth canol i Blaid Cymru Aberystwyth a Phenparcau drefnu noson fondue i godi arian. Ond byddwn i’n ymateb yn syth a dweud taw sefyll yn lle barbaciw oedd y fondue. Y drafferth gyda barbaciw yw ei bod yn rhaid ichi drefnu’r tywydd fis ymlaen llaw er mwyn ei gynnal yn llwyddiannus. Gellir sicrhau bod noson fondue yn mynd i fod yn sych! Ond mae’r elfen o fflamau ac o gogoinio pethau o flaen eich llygaid yn rhan o’r profiad fondue, felly mae’n medru gwneud y tro dros farbeciw yn iawn. Roedd ID a NMD wedi trefnu’r cwbl yn gampus ac roedd y bara a’r salad a’r fondue caws yn gwneud pryd blasus dros ben. Trueni nad oedd mwy yno, dim ond iddyn nhw gael blasu’r fodue caws hyfryd … heb sôn am ein helpu ni i godi mwy o arian! Unwaith eto roedd IapD ac EG yn barod iawn i ganu eu hofferynnau – ffidil, sacsaffôn, ffliwt a bagbibau.
Mae unrhyw un sy’n f’adnabod i yn dda yn gwybod cymaint o ran y chwaraeodd fondue yn fy ieuenctid. Nid fy mod wedi gweld set fondue na’i flasu erioed ym Mynachlog-ddu; ond dyna oedd fy ffantasi parhaol ynghyd ag After Eights. Dyna oedd y ‘lifestyle’ yr oeddwn yn dewis i fi fy hun. Yn anffodus doedd dim ffordd o gwbwl i wireddu hynny. Roedd hi’n 1979 cyn imi flasu fy fondue cyntaf a hynny pan yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dwi’n gwybod fod hyn’na yn gyfaddefiad ffogïaidd iawn i’w wneud – tra bod eraill yn arbrofi gyda phob mathau o gyffuriau oedd yn ehangu’r meddwl, roeddwn i’n arbrofi gyda chaws Gruyère a Emmental, kirsch a gwin gwyn!
Rhagor o luniau o’r noson fondue.
Tagiau Technorati: Cymdeithasu | Plaid Cymru.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael