Dwi’n gwybod nad yw’n beth aeddfed i’w wneud ac fe ddylai pobol fod goruwch y fath deimladau, ond mae presenoldeb cymaint o nwyddau a thrugareddau di-werth ar gyfer cefnogi tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd 2006 yn cythruddo rhai pobol. Fe welais dystiolaeth o hyn gyda fy llygaid fy hun heddiw a hynny ar ffurf sloganau ar wal siop B’wise yn Aberystwyth. Wrth edrych i mewn i’r siop dwi’n gweld yn hawdd sut gallai rhywun oedd yn sensetif i’r fath hyn o beth deimlo’n ddigon crac i baentio’r sloganau. Mae’r siop yn gyforiog o’r tat pennaf er mwyn cefnogi’r tîm. Efallai taw’r peth rhyfeddaf yw baner enfawr sy’n sefyll reit yn y canol.
Dwi wedi dechrau sylwi ar yr holl bethau sydd o gwmpas y lle erbyn hyn. Roedd ‘na gar ym maes parcio y Llyfrgell Genedlaethol heddiw yn chwifio baner Lloegr ac ym mae parcio B’wise hefyd. Yn nhafarn yr Hen Orsaf roedden nhw’n cynnig cyfle ichi weld gemau Lloegr ac ar y bar yr oedd blwch o freichledau garddwn ar werth er mwyn “cefnogi Lloegr”. Ar hyd a lled y dref mae ‘na bethau tebyg i’w gweld a’u canfod. Dwi’n siŵr nad yw hyn yn gynllwyn er mwyn ceisio cymhathu Cymru i fod yn Lloegr, ond pam fod hyn yn digwydd? Dyna gwestiwn diddorol – ac os taw gwneud arian yw’r ateb mae’n profi unwaith eto nad cyfalafiaeth ryngwladol yw’r sustem sydd fwyaf cydnaws gyda dyfodol ein gwlad a’n hiaith.
Fel y gwnes i broffwydo ar Flog Dogfael ychydig ddiwrnodau yn ôl mae’r prif weinidog, Rhodri Morgan, wedi codi baner Lloegr dros Lywodraeth y Cynulliad. Wrth gwrs buasai gosodiad mor ddiamwys ac uniongyrchol â hynny yn rhy syml o lawer i Rhodri Morgan, roedd yn rhaid iddo gymhlethu pethau’n bellach drwy ddweud y buasai hefyd yn dilyn Brasil, ac na fyddai’n edrych ar lawer o Gwpan y Byd ‘ta beth, ac os buasai cefnogwyr Lloegr yn gwneud pethau dwl yna fe fuasai’n cefnogi unrhyw dîm oedd yn chwarae yn erbyn Lloegr! A wnaeth unrhyw un ddeall beth oedd Rhodri Morgan yn ei ddweud? Dim rhyfedd fod Llywodraeth y Cynulliad yn llwyddo i wneud fel mynnon nhw, does neb yn deall yr atebion maen nhw’n eu rhoi fel eu bod nhw’n cael eu herio am unrhywbeth!
Gyda llaw wrth imi edrych ar y sloganau daeth cwpl heibio a mynegi eu barn hwy taw ‘yobs’ oedd yn gyfrifol. Mae ‘na sawl diffiniad o ‘yobs’ a phob un yn oddrychol.
Rhagor o luniau o sloganau a that Lloegr yng Nghymru.
Tagiau Technorati: Cwpan y Byd 2006 | Cymreictod | Seisnigrwydd.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Petai’r math yma o beth yn digwydd mewn unrhyw wlad arall, does gen-i ddim amheuaeth y byddai’r bobol ifanc y wlad honno yn mynd i bob siop o’r fath sy’n gwerthu’r sothach estron yma, yn gwneud pentwr ohonynt mewn rhyw le canolog yn y dre a rhoi matsien iddyn-nhw. Dyna’r unig iaith y byddai’r diawled yn debyg o ddeall.
Dyma rai sylwadau a gefais drwy e-bost ynglŷn â’r holl sylw yma i Loegr yng Nghymru:
“Oes na fodd gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn? Ble mae ein hunan barch fel cenedl? Dim ond yng Nghymru y gallai hyn ddigwydd, a dim ond y Cymry – y genedl fwyaf taeog ar wyneb daear Duw, fyddai’n barod i oddef y fath draha. Mae’n gwbl uffernol, ac ‘rwy’n llefen, yn llythrennol, wrth ysgrifennu’r nodyn hwn. Ni fûm i o fewn yr un o’r siopau hyn erioed, ac ai ddim yn agos at yr un ohonynt fyth tra byddaf byw.”
Dyna’i dweud hi.